Thursday, October 13, 2005

Cadeirydd newydd y Cyngor Sir

Cadeirydd newydd y Cyngor Sir
Ddiwedd y gwanwyn eleni, etholwyd y Cynghorydd Arwel Jones, Bethania yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.

Yn wreiddiol o Harlech, graddiodd ym Mhrifysgol Bangor a bu'n athro ym Mhowys ac yng Ngwynedd, ac wrth gwrs roedd yn brifathro ar Ysgol Y Moelwyn cyn iddo ymddeol ym 1992.
Yn beldroediwr talentog, bu'n chwarae i dîm Porthmadog yn ystod oes aur y Clwb yn 1950au ac roedd yn aelod o'r tîm enillodd Cwpan Amatur Cymru yn 1955 ac 1956.
Mae wedi cynrychioli’r Blaenau ers sefydlu Cyngor Gwynedd ym 1996.

Llongyfarchiadau gwresog i chi Arwel, braint yn wir i’r fro annwyl hon hefyd. Bu Llafar Bro yn ei holi ar ôl ei benodiad; dyma ddetholiad o’r drafodaeth:

Beth ydych yn gobeithio’i gyflawni yn ystod eich cyfnod fel cadeirydd y cyngor sir?
Tri pheth – a’r cyntaf yw dal ati i sicrhau buddiannau etholwyr fy ward sef pobl Diffwys a Maenofferen.
Yn ail edrych ar ôl buddiannau pob aelod o Gyngor Gwynedd gan sicrhau eu bod yn cael chwarae teg i wneud eu gwaith dros eu hetholwyr.
Yn drydydd gwneud fy ngorau i gynrychioli pobl Gwynedd ar bob achlysur – tu mewn i ffiniau’r Sir ac yn genedlaethol pan fo angen hynny.

Un o’r trafodaethau dadleuol cyntaf y bu raid i chi ei oruchwylio oedd honno ar Farina Pwllheli. Beth yw eich barn ar rôl Cyngor Gwynedd, a’r canlyniad?
Fy ngwaith i oedd sicrhau chwarae teg i bob aelod fel y gallai fynegi ei farn. Cafwyd trafodaeth gwbl deg ac ymddygiad urddasol - oni bai am un ebychiad anffodus o’r seddi cyhoeddus.
Roedd yn ddrwg gennyf weld siom ar wynebau wrth i hen gyfeillion anghydweld - eithr roedd fy nghydymdeimlad yn aros gyda’r swyddogion oedd wedi gweithio ar y cynlluniau am gyfnodau maith - heb gael arwydd clir gan y gwleidyddion fod y mwyafrif yn erbyn.

Ymddengys fod Cyngor Conwy wedi bod rhoi rhwystrau yn llwybr y datblygiad arfaethedig i gludo llechi ar y rheilffordd o’r Blaenau, pa bwysau mae Gwynedd yn ei roi ar ein cymdogion i weld y goleuni?
Mae agwedd Cyngor Conwy wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf a chredaf fod gobaith am gydweithrediad rhwng yr awdurdodau – a chefnogaeth gan y Cynulliad. Rwy’n hyderus y bydd yr ymdrech fawr gan nifer o bobl yn arwain at lwyddiant.

Mae Bro Ffestiniog wedi newid yn sylweddol yn y cyfnod y buoch yn byw yma. Be fu er gwell a be fu er gwaeth yn eich barn chi?
Pan ddaethom yma gyntaf yn 1978 roedd siopau’r Stryd Fawr yn dal yn ffyniannus ac roedd graen ar adeiladau gyda dim ond ychydig o arwyddion dirwasgiad. Yna cafwyd cyfnod llwm iawn gyda newid mewn patrwm siopa yn cydredeg efo’r ergyd fawr o gau Atomfa Trawsfynydd.
Serch hynny, erbyn hyn mae pethau’n dechrau gwella gyda buddsoddiad arian cyhoeddus yn cael ei ddilyn gan arian preifat – a hynny’n amlwg ar y Stryd Fawr.

Mae yna bryder naturiol am Gymreictod yr ardal wrth i ni weld dieithriad yn ymsefydlu yma yn gynyddol. Serch hynny mae hyn hefyd yn her i ni Gymry Cymraeg i fynd ati, fel mae ambell i gôr a chymdeithas yn ei wneud yn barod, i dynnu pobl atom – ar ein telerau ni yn ieithyddol.
Fy mhryder mwyaf , yn bersonol yw dirywiad dychrynllyd ein capeli a’n eglwysi ac effaith hyn ar y gymdeithas yn gyffredinol. Yr hyn sy’n rhoi gwefr arbennig i mi yw llwyddiant digamsyniol ein hysgolion – sydd gyda’r gorau yng Ngwynedd oll.

Ydych chi yn dal i ddilyn pêl droed? Pwy yw eich tîm?
Mae pêl droed proffesiynol wedi fy suro i raddau a phrin yw’r diddordeb yn y timau mawr - onibai fod Cymro yn chwarae iddynt. Rhaid cyfaddef y byddaf yn ciledrych ambell i Nos Sadwrn ar ganlyniadau Coventry City - oherwydd i mi gael cynnig mynd atynt am fis ar brawf flynyddoedd maith yn ôl. Eithr stori arall yw honno - roedd hi rhy agos at arholiadau. Mae fy nghefnogaeth i’r tîm lleol yn gwbl annigonol - fel y bydd Gwilym Euros yn f’atgoffa. Yn anffodus, prynhawn Sadwrn yw’r unig amser rhydd sydd gennyf fel arfer ac rwy’n treulio hwnnw ar fryniau hyfryd Clwb Golff Ffestiniog.
Sefydlwyd Cymdeithas Chwaraeon yn Stiniog y llynedd a chlwb beicio yn ddiweddar hefyd; pa ddatblygiadau hoffech chi eu gweld o ran adnoddau a gweithgareddau hamdden yma?
Yn gyntaf mae’n bryd i ni sylweddoli fel ardal nad oes modd bellach i ail-agor y rheilffordd oddi yma i Gellilydan ac ymroi ati i fynnu gosod llwybr beicio yn ei lle. Rhaid galw yn groch am hyn - a dal i alw nes bydd wedi’i sefydlu.

Yn ail mae angen i ni ddod at ein gilydd i sefydlu Canolfan Chwaraeon newydd yn y Blaenau.
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi nodi'r ardal fel un a ddylai gael datblygiad o’r fath oherwydd safle daearyddol a phoblogaeth. Byddaf yn siomedig iawn os na cheir symud ymlaen efo hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Sut ydych yn ymlacio?
Yn y Côr Cymysg – yn enwedig ar yr adegau prin pan fydd yr arweinydd yn canmol y tenoriaid.
Petaech ar raglen Beti a’i Phobl heddiw, pa 5 darn o gerddoriaeth fyddech yn eu dewis?
Byddwn yn fodlon efo unrhyw ddarn o gerddoriaeth Mozart, aria o Opera Eidalaidd, yr Adagio o Bumed Symphony Mahler, Meredydd Evans yn canu “Carol y Blwch” a thâp o “Anweledig”,
Byddai hynny yn lleddfu pob teimlad o chwithdod !

Pa lyfr(au) ydych ar ei ganol ar hyn o bryd, a pha 5 llyfr hoffech gael efo chi petaech yn sownd ar ynys bellennig?
O’r diwedd rwyf bron a gorffen y bedwaredd gyfrol o’r “Raj Quartet” gan Paul Sacet. Ychydig o amser rwy’n ei gael i ddarllen ffuglen - er fy mod yn gwrando llawer ar dapiau wrth yrru’r car.

Yn anffodus mae’r dewis yn y Gymraeg yn hynod brin. Byddai’n rhaid i mi gael fy Meibl a’m Llyfr Emynau (Gwisg Moliant y Bedyddwyr Albanaidd, wrth gwrs), “Cerddi’r Haf”, Williams Parry, “Cysgod y Cryman”, Islwyn Ffowc Elis a chasgliad Saesneg yn cynnwys barddoniaeth W.B.Yeats ac R.S. Thomas

Ai ynys felly yw eich paradwys chi, ynteu un o gymoedd y fro hon, arfordir Ardudwy, neu gornel fechan o’r Eidal efallai?
Mae fy mharadwys i wedi ei rhannu yn dair, sef ardal San Quirico D’Orcia yn ne Toscanna yn yr Eidal, ardal Uwchartro yn y bryniau uwchben Harlech - a Chwmorthin.

Diolch yn fawr am eich amser a phob bendith yn eich gwaith. Dymuniadau gorau i chi ac i Mrs Jones hefyd ar ddathlu penblwyddi arbennig yn ddiweddar. Gweler Mr Jones yn ei gadwyn yn y llun dathlu diwedd y rhyfel.

STOLPIA

STOLPIA
Bwyta yn y chwarel gynt
Nid oes dwywaith amdani hi bod bwyd a diod chwarelwyr yr oes bresennol yn dra gwahanol i’r hyn a geid yn nyddiau cynnar y diwydiant llechi. O beth ddeallaf, y mae gan rai o chwareli’r oes hon gaban neu ffreutur glan a chysurus gyda chegin fodern a dewis da o fwyd ffres a maethlon ar gyfer y gweithlu. Gall chwarelwr heddiw archebu ei bryd bwyd yn boeth neu’n oer, fel y mae’n teimlo ac eistedd wrth fwrdd i’w fwyta. Wrth gwrs, roedd pethau yn dra gwahanol yn oes ein teidiau a’n hendeidiau, onid oeddynt?

Yn ôl hanes cynnar chwarel y Manod cwynodd William Pritchard ym mis Hydref 1804 nad oedd gan y gweithwyr unman i ymochel tywydd garw’r gaeaf nac unlle gyda tho arno i fwyta eu bwyd. Druan ohonynt, ddywedaf i, a phwy a fuasai’n eu beio am wrthod gweithio dan ffasiwn amodau ar lecyn sydd dros 1600 troedfedd uwchlaw arwynebedd y môr. Yn dilyn, ceir agweddau eraill o fywyd ein hen chwarelwyr.

Y fasged fwyd
A ydych wedi meddwl sut y byddai’r hen chwarelwyr yn cario eu bwyd i’w gwaith cyn dyddiau’r tun bwyd neu’r bocs bwyd, fel y tueddir i’w alw heddiw. Ar un adeg, edrycha’n debyg iawn fod rhai o’r chwarelwyr yn cludo eu bwyd i’r gloddfa mewn basged. Dyma hanesyn ‘digrif-ddwys’ am y pwnc o Hunangofiant Robert Williams, Cae Engan, Llanllyfni a ymddangosodd yn Cymru O.M. Edwards am y flwyddyn 1899:

Bore Oes Chwarelwr 1813-1839 ....... ‘Ar ôl hynny, aeth fy nhad i weithio i Gloddfa’r Lôn at David Griffith, Ty Mawr. Yr unig beth hynod wyf yn gofio a gymerodd le tra yno oedd i lwmp ergyd ddisgyn ar fasged bwyd David Griffith tra roedd fy nhad ac yntau yn bwyta ganol dydd. Gweithio yr oeddynt ar ben y domen uwch ben llyn Nantlle heb yr un wal. Clywsant swn ergyd yn y chwarel ac edrychasant i fyny, a gwelsant lwmp mawr yn hofran yn yr awyr uwch eu pennau. Codasant i fyny ar y foment, a chiliasant o’r ffordd gorau y gallent, a disgynnodd yntau ar y fasged bwyd oedd ar y pentwr llechau oedd fy nhad wedi eu hollti i David Griffith i’w naddu. Gan hynny roedd rhwng y ddau yn y fan yr oeddynt yn gweithio. Malodd y fasged a’r bwyd yn chwilfriw, ynghyd a’r pentwr llechau. Cefais i ddarnau o’r gwyneb a’r gwaelod o’r fasged i wneud trol bach.’
Wel, mae’n rhaid fod rhagluniaeth fawr y nef yn gwenu ar y ddau y diwrnod hwnnw, onid oedd?

Y Piser bach
Ceir ambell gyfeiriad hefyd mewn hen atgofion am ein chwareli at ddefnyddio piser neu ‘biser bach’ i gario ymborth y chwarelwr. Daw’r enghraifft canlynol o gyfrol un a dreuliodd rhan gyntaf ei yrfa yn rhybelwr bach yn Chwareli Cilgwyn a Dorothea, Dyffryn Nantlle, ond fel sawl un arall, a adawodd y chwarel a mynd i’r weinidogaeth yn ddiweddarach, sef Y Parchedig Owen G. Owen ‘Alafon’ (1847-1916).

‘Rhoddir yma yr hyn y dywed traddodiad oedd englyn cyntaf y bardd. Pan yn fachgen ieuanc yn gweithio yn Chwarel y Cilgwyn yn ôl arfer y chwarelwyr, dygai ei fwyd yn y “piser bach”. Un diwrnod anghofiodd ei lwy ac fel hyn yr ymfflamychodd:

A oes dim llwy yn y llys, - er chwilio
A chwalu’n ofalus;
Gwyddoch yn dda nad gweddus
Bodio bwyd â bawd a bys.

Y fasged a’r piser
Deuthum ar draws y cofnod nesaf ‘ma mewn ymateb i Atgofion Ned Pugh am Chwarel Braich y Cafn (Chwarel Penrhyn heddiw) a ymddangosodd yn y Drych. Cyhoeddwyd yr ymateb dan y teitl Chwarelwrs yr Hen Amser ym Maner ac Amserau Cymru, Chwefror 9, 1895. Yn yr hanesyn hwn cawn gyfeiriad diddorol at fwyd y chwarelwr a’r ddeupeth a enwir uchod, yn ogystal a hanes hen gyfaill tebol:

‘Ein bwyd ni fyddai powliad o frowas bara ceirch, am y safai llwy ynddo i frecwast, cilcen torth a lwmp o fenyn yn y fasged bren, a phiseriad o laeth tew fel grual. Pan agorem y cauad, byddai caenen o rew dros ei wyneb yn y gaeaf, er hynny, yfem ef. Ond y mae rhain yn sgrythu yn y cytiau yma. ‘Does ryfedd fod yr oes yn mynd yn wanach. Ychydig o ddynion welwch chi yn awr fel Robin y Fron. Yr oedd Robin yn ddwy lath a dwy fodfedd yn nhraed ei sana, ac yn mesur chwech a deugain o dan ei geseiliau, a’r un faint yn union yn ei dynewyn. Yr oedd yn rholyn crwn fel coeden’

Gan mai cyfeirio at chwareli Arfon y mae’r dyfyniadau uchod, mae’n rhaid imi fod yn blwyfol unwaith eto a gofyn, tybed a wyddoch chi am enghriefftiau o chwarelwyr ‘Stiniog yn cario eu bwyd mewn basged neu biser i’w gwaith? (I’w barhau)

Ymholiadau
Tri ymholiad bach i orffen. Yn gyntaf, pwy all dweud wrthym beth yw cynnwys ‘Pwdin Stiniog’ neu’r Ffestiniog Pudding a grybwyllir mewn hen lythyr yng nghasgliad Rheilffordd Ffestiniog? Yn ail, ymhle oedd Edmund Street yn y Blaenau? Ac yn olaf, a oes un ohonoch yn gyfarwydd â hen bennill neu rigwm am Sion a Sian sy’n byw yn y ty tywydd?

Gol: Cafwyd ymateb i ymholiad Steff am yr eli gwyrdd, yn rhifyn Mehefin. Ffoniodd Elsi Roberts, Chwilog acw un noson i ddweud ei bod yn cofio ei mam yn ei ddefnyddio ar friwiau aballu. Bu’n ddigon caredig i addo taro ‘chydig o’r hanes ar bapur inni yn y dyfodol. Diolch am gysylltu, edrychwn ymlaen felly.

DWEUD EIN DWEUD

DWEUD EIN DWEUD
ar ddyfodol yr Ysbyty Coffa

‘DWEUD EICH DWEUD’ ydi teitl y llyfryn a elwir yn ddogfen ymgynghorol ar yr ADOLYGIAD O WASANAETHAU GOFAL IECHYD YM MLAENAU FFESTINIOG. Ond mae ei chynnwys eisoes wedi cythruddo canran uchel o boblogaeth y cylch, fel y gwelwyd yn glir iawn yn y tri chyfarfod a gafodd eu trefnu gan y Bwrdd Iechyd ar Gorffennaf 19, 20 a 21.

Yn ôl y ddogfen ‘Cynhelir ymgynghoriad eang rhwng 1 Gorffennaf 2005 a 23 Medi 2005’. Ond roedd bron i dair o’r wythnosau hynny wedi mynd heibio cyn i’r broses ymgynghori ddechrau o gwbwl! Ac yna caed mis Awst ar ei hyd! Mis y gwyliau.

‘Ymgynghoriad eang’? Go brin! Yn y Blaenau y cynhaliwyd y tri chyfarfod ond rhaid cofio nad gwasanaethau gofal iechyd y dref yn unig sydd dan fygythiad ond gwasanaethau ardal gyfan, a honno’n ymestyn yr holl ffordd o Ddolwyddelan i Drawsfynydd.
Agenda wedi’i threfnu naill ai’n flêr neu’n gyfrwys, ddwedwn i!

Swm a sylwedd y ddogfen DWEUD EICH DWEUD yw ceisio profi bod yn rhaid cau’r Ysbyty Coffa a’i droi’n ddim byd amgenach na chlinig a fydd yn gneud yr un math o waith â’r Ganolfan Iechyd bresennol. Fe gynigir inni 4 opsiwn i ddewis ohonynt ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol (gyda sêl bendith y panel a gaiff ei alw’n Grŵp Tasg a Gorffen) am inni dderbyn mai’r unig opsiwn ymarferol ydi DEWIS B. A dyma, air am air, be mae hwnnw’n ei gynnig:-

* Rhwydwaith o wasanaethau yn y gymuned gyda’i gilydd yn yr ysbyty (dim gwelyau cleifion mewnol)
* Tim ‘Ymateb Cyflym’ yn y gymuned i gynnig gofal i bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, gan gynyddu’r cyfleon i osgoi mynediad diangen i’r ysbyty a galluogi rhyddhau prydlon o’r ysbyty
* Gwell buddsoddiad a mynediad i amrywiaeth o wasanaethau iechyd a’r gymuned e.e. gwasanaeth trawiad y galon, gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, atal cwympiadau
* Amrywiaeth barhaus o wasanaethau cleifion allanol, gwasanaethau Mân Anafiadau a gwasanaethau Pelydr-X
* Rhoi grym a chynorthwyo ail-greu cymunedau lleol gydag amrywiaeth ehangach o wasanaethau gofal iechyd.

CWESTIWN:
Oes yna rywbeth yn y rhestr uchod nad ydyn ni’n ei gael yn barod neu y dylem ni fod yn ei gael beth bynnag?

A dyma beth y byddem yn ei golli efo DEWIS B? –
* ‘Darperir gofal cleifion mewnol mewn lleoliadau eraill’

CWESTIWN: Ymhle, felly?
ATEB: Ysbyty newydd Porthmadog wrth gwrs! Bydd hynny’n golygu teithio i fan’no (bob dydd, o bosib) i ymweld ag anwyliaid sy’n glaf. Meddyliwch am yr anhwylustod, yn enwedig yng nghanol traffig yr haf! A meddyliwch am y gôst! Meddyliwch hefyd, wrth gwrs, am y nifer o’r staff fydd yn colli eu gwaith.)
* ‘Ni fydd cleifion yn derbyn gofal cymdeithasol o gyfleusterau Gwasanaeth Iechyd Gwynedd mwyach.’

CWESTIWN: Ymhle fydd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnig ’ta?
ATEB Y BWRDD IECHYD: Nid ein problem ni!

Fe edrychwn ni rwan ar eu dadleuon nhw dros wneud i ffwrdd â’r Ysbyty Coffa -
* ‘Dim yn ateb anghenion y boblogaeth ehangach.’

CWESTIWN:
Os dyna’r gwir, yna bai pwy yw hynny, os nad bai’r Bwrdd Iechyd ei hun?
* ‘Adeilad ysbyty ddim yn addas i bwrpas darparu gwasanaethau iechyd modern.’ (Yr eglurhad - neu’n hytrach yr ESGUS - a gaed yn y cyfarfodydd oedd bod angen cyfleusterau ‘en suite’ mewn ysbyty modern. Hynny yw, pob claf efo lle molchi a thoiled iddo’i hun!!)
* ‘Dim yn gynaliadwy dros y 10 – 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i newid yn anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio.’ (Cynaliadwy = costio gormod!)
CWESTIWN: Ydi pobol ardaloedd eraill ddim yn heneiddio?
* ‘Parhau’n aneffeithiol gyda lefelau isel o ddefnydd gwelyau’
Ar hyn o bryd, does dim gwely gwag yn yr Ysbyty ac felly, fwy neu lai, mae pethau wedi bod yno ers wythnosau. Rhaid herio ystadegau’r Bwrdd Iechyd!
* ‘Dim yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau ariannol’
CWESTIWN: Bai pwy, os nad bai’r Bwrdd Iechyd ei hun?
* ‘Darpariaeth sylweddol o ofal cymdeithasol yn hytrach nag ymyrraeth iechyd’
CWESTIWN: Polisi pwy, os nad polisi’r Bwrdd Iechyd, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd lawer?

* * *

Mae llawer iawn mwy o ddadleuon gwag a sunigaidd yn y ddogfen nad oes digon o le i’w trafod yma, gwaetha’r modd, ac na chaed cyfle chwaith i’w gwyntyllu’n foddhaol yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Y gwir ydi bod y ddogfen yn sarhad ar ddeallusrwydd pobl y cylch, a phryder llawer ohonom rwan ydi mai ffârs hefyd fydd y cyfnod o ymgynghori, oherwydd bod y penderfyniadau pwysig wedi cael eu gneud eisoes, tu ôl i ddrysau caeedig.

Diwedd y broses ymgynghori fydd Cyfarfod Cyhoeddus ar Medi 23. O bosib mai yn Neuadd Ysgol y Moelwyn y caiff hwnnw ei gynnal. Mae Llafar Bro o’r farn ei bod yn hollbwysig, fod pob un ohonom sy’n pryderu am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y cylch (NID dyfodol yr Ysbyty Coffa’n unig, sylwer) yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, i ddangos ein hochor yn glir.

Yn y cyfamser, mae Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa wedi cael ei ffurfio ac mae hwnnw wedi bod yn brysur yn trefnu Deiseb a dwy Rali – un ar strydoedd y Blaenau ar Medi 21 (ymgynnull wrth yr Ysbyty am 10.30) a’r llall o flaen Adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd (dyddiad i’w bennu). Apeliwn ar i bawb o bob oed, ac o bob cymdeithas o fewn y gymuned, i gefnogi ymdrechion y Pwyllgor Amddiffyn, fel bod neges glir iawn yn cael ei chyfleu i’r rhai sydd am ein hamddifadu o’r gofal iechyd llawn y mae gennym i gyd yr hawl i’w ddisgwyl yn yr ardal hon.
Mae eich papur bro, yn ogystal â’r Pwyllgor Amddiffyn, am i’r Bwrdd Iechyd ystyried opsiwn gwahanol, sef Opsiwn y Bobol –

* Cadw’r ddarpariaeth bresennol, yn yr ysbyty a’r clinig pelydr-X
* Cadw’r ganolfan ambiwlans yn y dref
* Ail-agor y clinig ffisiotherapi yn Ffordd Tywyn
* Adfer y clinigau arbenigol a gollwyd heb unrhyw rag-rybudd yn ddiweddar
* Sefydlu uned loeren arennol (satellite renal unit) yn yr Ysbyty Coffa. GVJ

Mae’r Pwyllgor Amddiffyn yn apelio am gyfraniadau ariannol tuag at gost yr Ymgyrch i Amddiffyn yr Ysbyty a’r Gwasanaethau Iechyd. Bydd pob ceiniog yn dderbyniol. Gellir anfon cyfraniadau i’r Trysorydd Evan G. Williams, Bryn Marian, 140 Heol Manod LL41 4AH (Ffôn: 01766 830305)

Mae hyn yn amlwg wedi ysgogi pobl yr ardal wych hon i godi llais. Gweler hefyd lythyr ar y pwnc yma, colofn Munud i Feddwl, a sylwadau eraill oddi mewn. Cofiwch da chi ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y 23ain o Fedi.

SGOTWRS STINIOG

SGOTWRS STINIOG
Y Gog Lwydlas
Diolch i Mrs Mair Jones, Cwm Cynfal, am ymateb i’m ymholiad ynglyn â’r gog, sef pryd y cafodd ei glywed gynharaf yn ein hardal. Roeddwn i wedi ei glywed yn galw ar y 30ain o Ebrill yn ardal y Manod, ond clywodd Mrs Jones a Heulwen, ei merch, y gog yng Nghwm Cynfal ar y 24ain o Ebrill.

Yn ei draethawd ‘Llen-Gwerin Meirion’, a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog yn 1898, mae William Davies yn nodi y coelion a oedd yn bod ynglyn a chlywed y gog am y tro cyntaf. Meddai -
‘Mae clywed y gog yn canu am y tro cyntaf heb arian yn y boced yn arwydd o flwyddyn lom a thlawd. Os glywid y gog ac arian yn y boced yna roedd angen troi yr arian er mwyn sicrhau blwyddyn lwyddiannus.

Os byddai i rywun glywed y gog am y tro cyntaf ac yn digwydd bod yn sefyll ar dir glâs, arwyddai hynny lawnder a chysur a byd da. Os y digwyddid a’i chlywed yn agos i’r ty, byddai hynny yn arwydd y ceid newydd da yn fuan.
Os y gog a ganai cyn Calan Mai, yna byddai yr enllyn (caws, menyn, ayb) yn rhad; ond os y byddai’n canu yn gynnar, yna drud a fyddai’r enllyn.
Gwcw Calanmai - Cosyn dimai.
Gwcw Gwyl Fair - Cosyn tair.

Pysgota’r Sewin
A ninnau fel sgotwrs wedi cyrraedd mis Medi, sef mis olaf ‘Tymor y Brithyll’ mae’r diddordeb a’r pwyslais yn awr yn symud oddi wrth y llynnoedd a’r brithyll cyffredin, ac ar y sewin, - y brithyll ymfudol, - ac i’r afonydd. Mae rhai wedi cefnu ar y llynnoedd a throi at yr afon ers rhai wythnosau.

Wrth gwrs nid pob sgotwr sydd â diddordeb mewn mynd i chwilio am sewin - neu gwyniedin fel mae eraill yn ei adnabod, - yn rhai o’r afonydd sydd o fewn cyrraedd. Ond gall wneud hynny fod yn brofiad newydd a gwahanol, ac hefyd yn brofiad diddorol.
‘Onid her yw galwad hon?
Rhyfedd yw tynfa’r afon’
- meddai D. Gwyn Evans mewn cywydd, - ac mae mynd ar ôl y sewin yn dipyn o ‘her’.
Yn ddiweddar bum yn pori rywfaint yn llyfr Gaeam Harris a Moc Morgan ar bysgota y pysgodyn enigmatig yma, - sef, ‘Successful Sea Trout Fishing’. Mae yn llyfr sy’n llawn o awgrymiadau ac o gyfarwyddyd ar sut i fynd ati i ddenu y sewin i’r gawell. Mae’n ddarllen diddorol.

Pennod y bum i’n aros uwch ei phen am beth amser yw’r un am y plu sy’n cael eu defnyddio, ac am ei hamrywiol batrymau. Mae dewis pur eang ohonynt.
Un peth y mae’r awduron yn ei bwysleisio yw pwysigrwydd y lliw du sydd ym mhatrymau amryw o’r plu. (Er mae Kingsmill Moore, awdur y clasur o lyfr ar bysgota’r sewin yn Iwerddon, sef ‘A Man May Fish’, yn dweud mai nid lliw ydi ‘du’ ond absenoldeb lliw).
Pa’r un bynnag am hynny, mae ‘du’ yn amlwg yng nghawiad sawl pluen sydd yn llyfr Harris a Morgan, - un ai yn y corff, y traed, neu yn yr adain. A chyda’r du mae arian neu wyn yn mynd law-yn-llaw, fel petae.

Ymhlith y plu a ddisgrifir gan y ddau awdur y mae dwy bluen, sydd yn engreifftiau da o hyn, sef y rhai a elwir yn ‘Moc’s Cert’, a ‘Blackie’. Mae y ddwy yma’n ddu drostynt gydag arian yn gylchau am y corff, a dwy bluen wen oddi ar war ceiliog y gwyllt wedi eu rhoi wrth lygad y bach. Yn wahanol i sawl pluen sewin arall does dim cynffon gan y naill na’r llall o’r ddwy bluen.
Dyma batrwm y bluen ‘Moc’s Cert’ yn llawn, rhag ofn y bydd o ddiddordeb i rai sy’n mynd ar ôl y sewin ac am roi cynnig arni.
Bach Maint 4 i 10
Corff Hanner ôl o arian; hanner
flaen o arian llydan amdano
Traed Ceiliog du
Adain Blewyn wiwer du, gyda phlu
cynffon paun gwyrdd (‘sword’)
dros y blewyn wiwer
Bochau Ceiliog y gwyllt - pluen
fechan wen

Mewn colofn papur newydd yr oedd Moc Morgan yn ei chynnal yn ôl yn Chwefror 1987, mae yn disgrifio sut y daeth y bluen arbennig yma i gael ei chreu a’i chawio. Bu iddo ef a thri neu bedwar o bysgotwyr sewin eiddgar ddod at ei gilydd, ac, wedi cryn dipyn o ddadlau ac ymresymu, o bwyso ac o fesur, o dipyn i beth cytunwyd ar y patrwm uchod.
Gyda llaw, y bluen ‘Blackie’ sy’n cael ei hargymell i bysgota sewin, hon yw’r bluen a fu’n gweithio’n dda iawn yn Llyn Brenig flynyddoedd yn ôl pan agorwyd y llyn hwnnw i’w bysgota. Efallai y caf son am hon rywbryd eto.
Pob hwyl ar y pysgota am hynny o’r tymor sy’n weddill.

Cystadleuaeth
Gair i atgoffa ieuenctid yr ardal fod yna gystadleuaeth bysgota i’w chynnal ar Llyn Ffridd y Bwlch ar yr 11eg o fis Medi. Dechreuir am 10.00 o’r gloch y bore, a bydd yn dod i ben am 4 o’r gloch y pnawn. Y tâl am gystadlu fydd £4.

Mwy o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.

Mwy o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.
(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)

Tymor 1956-57 oedd y cyntaf i ‘Stiniog gael chwarae ar eu cae newydd yng Nghae Clyd. Symudwyd yno o Gae Haygarth a oedd yn dueddol iawn o fynd yn un cawdal o fwd. Roedd gan glwb pêl-droed Porthmadog lun ar un o furiau eu hystafelloedd newid yn portreadu, a gor-liwio cyflwr gwael cae Haygarth. Hwyl oedd y cyfan, mae'n siwr, ond nid oedd cefnogwyr ‘Stiniog yn gweld yr ochr ddigrif i'r mater. Y gêm gyntaf ar y cae newydd oedd Blaenau v Llanrwst, ac enillodd Stiniog o 4-2. Peter Holmes, Blaenau oedd y cyntaf i sgorio ar Gae Clyd. Collodd Stiniog wasanaeth Fred Corkish yn 1956-57. Tymor sâl a fu hwn i'r Blaenau. Yr oeddynt yn weddol dda gartref ond yr oedd yn chwith iawn eu gweld yn perfformio oddi cartref. Dim ond mewn tair cystadleuaeth cwpannau yr oeddynt yn cymryd rhan, Cwpan Cymru, Her Gwpan a Chwpan Cookson, ac yr oeddynt allan ohonynt yn gynnar iawn. Llwyddasant i sgorio 107 gôl ond bu bron iddynt adael i dimau eraill sgorio hynny yn eu herbyn. Y prif sgorwyr oedd Eccleson (21), Ron James (18), D.G.Pierce (14), William Jones (11) ac R.T.Jones (11). Cafodd Geraint Vaughan Jones dair gôl mewn un gêm ddwywaith ar ôl eu gilydd.

1957-58
Yr oedd tymor 57-58 yn salach fyth. Hyn er i'r Blaenau gael gwasanaeth Jack Robinson - y gellid dadlau mai ef a fu'r dalent fwyaf erioed ar lyfrau Stiniog. Bu Mullock yn y tîm bedair gwaith ond ni chafodd gôl. Cymerwyd ei le gan Bradley, Finney, Lane, J.D.Hughes, Gwilym Griffiths. Ni fu gan Blaenau fawr erioed gymaint o chwaraewyr ar y llyfrau - 51 i gyd. Yn y gôl bu David Neville Davies, Tom Jones. Bu Orig Williams yn y tîm saith gwaith. Wrth edrych yn ôl ar y rhestri gwelir bod chwaraewyr medrus iawn ynddi, ond nid oedd obaith gyda'r fath gyfnewidiadau a ddigwyddai. Er hyn oll, nid aeth y Blaenau i waelodion y tabl - yr oedd pump tîm odanynt.
1958-59 Os oedd tymor 1957-58 yn un o'r tymhorau gwaelaf, yr oedd yr un a'i dilynodd ymysg y goreuon. Ni ellir byth â deall hanes y bêl-droed yn Stiniog heb wybod am y tîm a luniwyd yn

1958-59.
Dyma'r tîm: Bob Pines, John Edwards, Bob Hunter, Richard Alwyn Thomas, Jack Robinson, Keith Godby, David Todd, Jimmy Quinn, Derek Hunter, Norman Birch, Tony McNamara. Y mae'r enwau hyn yn darllen fel barddoniaeth i bawb a ddilynodd Stiniog yn 1958-59. Ni wnaeth y tîm hwn golli gêm o gwbl. Ac eto, ni enillodd Blaenau bencampwriaeth Gogledd Cymru yn 1958-59, ond y mae rheswm da am hynny. Yr oedd hi'n Dachwedd y cyntaf 1958 ar y tîm cyfan uchod yn cychwyn ar ei yrfa. Cyn hynny aethai pymtheg gêm heibio heb ennill ond pump ohonynt. Roedd hi wedi canu, felly, ar Stiniog i ennill y bencampwriath. Roedd hi'n ddechrau Medi ar Bob Hunter yn ymuno, yn niwedd Medi Medi ar McNamara, ac yng nghanol Hydref ar R.Alwyn Thomas yn cyrraedd. O Dachwedd ymlaen ni chollodd y tîm llawn un gêm. Heb Bob Hunter, collodd y tîm yng Nghei Connah ar y 7fed o Fawrth, ac ni chollwyd yr un gêm wedyn. Golygai hynny fynd am 17 gêm heb golli. Fel yr oedd y tymor yn dirwyn i ben cafodd y Blaenau fuddugoliaeth yn erbyn holl brif dimau y Gynghrair ar y pryd, sef Boro Utd., Llandudno, Caergybi, Caernarfon a Bae Colwyn. Yr oedd hyn yn arwydd o pwy a fyddai pencampwyr y tymor hwnnw pe byddai Stiniog wedi cael cychwyn ynghynt. Dros y tymor sgoriodd Stiniog 148 gôl. Yr oeddynt yn drydydd yn nhabl y Gynghrair, a hwy a enillodd gwpan Cookson a'r Her Gwpan. Sgoriodd Derek Turner 55 gôl mewn 42 gêm. Y prif sgorwyr eraill oedd Quinn - 28, Birch - 26, McNamara - 12, Todd - 12. Sgoriodd y pum blaenwr hyn gyfanrif o 133 gôl. Cafodd Turner, Quinn a Birch 109 gôl rhyngddynt. Yn y gêm Gynghrair olaf galwyd ar dîm hollol leol i chwarae yn erbyn Treffynnon, ac fe enillasant 4-2. Y tîm hwnnw oedd: Alan Evans Jones, Ronnie Humphreys, Dewi Owen, Vivian Jones, Ronnie Jones, Elwyn Rees, R.Elwyn Jones, Edmund Williams, Arwyn T.Williams, Elfyn Jones, Ken Jones.
(i'w barhau. VPW)

MYMRYN O’R ‘STEDDFOD

MYMRYN O’R ‘STEDDFOD
Pegi Lloyd-Williams

Bu i mi fynd yno ar y Dydd Mercher er mwyn ymuno ag aduniad yr hen Ysgol Sir. I mewn i’r Coleg ar y Bryn ar ein pennau a chael ‘lwc rownd’ iawn gan ein bod wedi cyrraedd cyn i’r merched ferwi’r tegell ar ein cyfer. Cafodd pawb amser da yno yn siarad hefo hwn a’r llall, a gofyn i rai: meibion i bwy oedda nhw? er mwyn dod o hyd i’w cyff. Naill yn dweud wrth y llall “Wel, rwyt ti’n edrych yn dda’ -yr arwydd cynta ein bod yn mynd i oed! Fydda steddfod yn y gogledd ddim yn steddfod i ni yma heb yr aduniad hwn, a mae lle i ddiolch i Nia Wyn, Beti, Siân a Sylvia am ymdrechu mor galed i gadw’r traddodiad ymlaen yn wyneb yr holl anhawsterau eleni. Da oedd clywed Siân yn cyhoeddi o’r llwyfan mai ar y maes byddent o hyn ymlaen, fel ag o’r blaen.

Roedd yr Athro Gwyn Thomas a Dr Bruce Griffiths yno wrth gwrs, ac fe gyflwynodd Bruce siec am fil o bunnoedd i’r Prifathro ar ran Cyfeillion yr ysgol. Tra yn diolch am y rhodd roedd yn galondid clywed Dewi Lake yn dweud y bydd yr arian yn mynd at y gweddill sydd mewn llaw wedi dathlu canmlwyddiant yr ysgol er mwyn gwella offer y llwyfan, goleuadau a sain y neuadd.

Ei gwneud hi wedyn at Y Faenol a mynd o gwmpas tipyn. Licio fel oedd pethau wedi eu gosod allan - doedd yr unlle yn bell iawn fel y gwelwn weithiau. Fydda i ddim yn un am y pafiliwn, yn enwedig y blynyddoedd diwethaf ‘ma pan rydym yn gweld cymaint ar S4C, ac felly yma ac acw y bum i. Cael croeso calon gan Merêd - wel roedd fy ngwyneb o’r golwg ar ei ysgwydd beth bynnag. Fo a Phyllis yn edrych yn dda. Galw heibio’r Babell Lên wrth gwrs, a gyda lwc mynd i mewn i babell ‘Y Caban’. Roedd yr hen stôf fawr yno a’r meinciau a’r byrddau, a phawb yn cael llond mwg mawr o de, a chan nad wyf yn cymryd llefrith na siwgr gallaf eich sicrhau mai paned dda dros ben oedd hi hefyd. Wedi mynd i mewn ar ein pennau wrth gwrs heb raglen na dim, ond yn lwcus iawn roeddem mewn pryd i gael trafodaeth ar Y Streic Fawr yn Sir Gaernarfon.

Streic y chwarelwyr wrth gwrs. Roedd yno 5 ‘Parchedig’, un o’r Eglwys Wladol, dau o Fethodistiaid rwy’n meddwl, a T.R. Jones (Tanygrisiau) bedyddwyr wrth gwrs, a John Roberts adran grefyddol y BBC fel “llywydd y ty” gan mai yn y caban oedda ni. Roedd yr eglwyswr yn canmol y meistri, ac yn atgoffa pawb fel roedda nhw yn gofalu am fythnynod i’r gweithwyr a llain o dir i dyfu bwyd a.y.y.b., cawsom rhyw cipdrem o’r cyfnod gan y ddau arall, ac un yn dweud fod yna le mawr i gredu mai myth rhamantaidd a gododd mewn amser oedd y ffaith fod y chwarelwyr yn bwrw eu hamser cinio prin yn ymdrin a phethau dyfnion bywyd a.y.y.b. Tipyn yn ystradebol hwyrach. Daeth tro ‘T.R.’ a dyma Tomi Richard yn bwyllog a dirodres yn rhoi cefndir Y Caban i ni, gan ei fod wedi bod yn rybelwr bach cyn troi at y weinidogaeth, a phrofiad personol ganddo am “eu hamser cinio brin”. Roedd John Roberts am ei frysio mlaen weithiau gan ‘fod yr amser yn brin’ ond byddar oedd Twm i’r cais a byddai torri ar ei sgwrs wedi tlodi’r cyfarfod. Roedd cynulleidfa dda yna hefyd, gyda Mr Cynog Dafis y cyn AS a AC yn cyfrannu llawer at y drafodaeth. Trist oedd sylwi nad oedd yr un llun na dim o gwmpas y ‘Caban’ yn cyfeirio ar chwareli Stiniog. Roedd yno gylchgrawn bach oedd yn cyfeirio ar ‘bedwar o dai a achubwyd rhag eu dymchwel ym Mlaenau Ffestiniog’ ag sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa wrth gwrs, ac ar y dudalen sydd yn cyfeirio at ‘Gerddoriaeth’ does ond sôn am fandiau pres Deiniolen, Llanrug a Phenygroes, er mae yna gyfeiriad at lwyddiant gwyliau lleol fel “Car Gwyllt” ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r adran lenyddiaeth yn cyfeirio at T. Rowland Hughes, Kate Roberts a Caradoc Pritchard, a’r adran chwareuon at Dr Robert Miles Roberts, Darans Llanberis, Llechid Celts, Mountain Rangers Rhosgadfan. Mae tudalen yr Undebiaeth yn ymdrin a chwarelwyr Arfon, ac felly adran Iechyd a Lles.

Penderfynu ei chychwyn hi oddi yno cyn diwedd gweithgareddau’r pnawn - penderfyniad doeth a chael siwrna didrafferth. Diwedd da i ddiwrnod ardderchog.

Cymeraf y cyfle wrth gwrs i longyfarch pawb o Stiniog a wnaeth mor dda yn eu hymdrechion - Seindorf Arian yr Oakeley; Côr y Brythoniaid; Gruffydd Glyn, wyr Derek a Meriel Sgwâr Oakeley ar ennill Gwobr Goffa Richard Burton; Cynan Jones, Caeffridd yn cael tlws am ei waith arbenigol yn Ymryson y Beirdd; a gweld Yr Athro Gwyn Thomas yn derbyn anrhydedd haeddiannol gan yr Eisteddfod. Hwyrach bod mwy - gobeithio bod yna, a’r un llongyfarchiadau i chwithau hefyd.

GRWP HYFFORDDI AMAETHYDDOL FFESTINIOG A’R CYLCH

Grwp Hyfforddi Amaethyddol Ffestiniog a’r Cylch
Yn ddiweddar wedi blynyddoedd o segurdod ail ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd hyfforddi amaethyddol yn ardal Ffestiniog.

Arferai grwp o’r hen ATB fod yn y cylch (Agricultural Training Board), ond bellach mae hwnnw wedi diflannu. Fodd bynnag gan fod arian yn parhau yn y gronfa penderfynwyd ceisio cario ymlaen ar raddfa leol. Ers mis Ebrill mae dau gyfarfod eisioes wedi cael eu cynnal.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Nhyddyn Merched. Daeth Mr Iwan Parry, un o filfeddygon Dolgellau draw i roi cwrs ar dynnu wyn. Daeth nifer o ieuenctid lleol at ei gilydd, a chafwyd hwyl yn dysgu ac yn cymdeithasu ar y noson. Roedd Mr Parry fel arfer yn gallu cael y gorau o ymateb y bobl ifanc, a phrofodd y cyfarfod i fod yn un effeithiol a difyr dros ben.

Yna yn ddiweddar aeth ychydig o’r bechgyn draw ar gwrs cneifio i Goleg Glynllifon ar fin nos. Buont yn dysgu sut i ddal dafad yn gywir, sut i ddefnyddio darn llaw y peiriant cneifio, cawsent gneifio dwy neu dair dafad bob un, a dysgu hefyd sut i lapio gwlân wedi ei gneifio. Roedd amynedd di ben draw gan yr hyfforddwyr, ac ni fuont fawr o dro yn dechrau cael trefn ar yr hogia’. Noson eto lle clywyd y criw ifanc yn dweud ar ei diwedd “Dwi wedi joio fy hun heno”.
Gobeithio y bydd dilyniant i’r ddau gwrs yma, ac y bydd cyrsiau ar bynciau eraill yn cael eu cynnal hefyd yn fuan.

Gobeithio yn fawr y gwelir parhad a dyfodol i grwp fel hwn. Mae o fudd mawr i bobl ifanc sydd a diddordeb nid yn unig mewn amaethyddiaeth ond hefyd ym mywyd cefn gwlad.

ATGOFION Y SEINDORF

ATGOFION Y SEINDORF
Dyma hanner cyntaf erthygl newydd gan Glyn Parry, o atgofion personol a hanesion y band
Diddorol oedd gweld llun recriwts y Band yn rhifyn Gorffennaf. Daw ag atgofion lu i mi. Tynnwyd y llun ychydig cyn diwedd y rhyfel. Yr oeddwn wedi cael fy ‘ngalw i fyny’ i ymuno â’r Rifle Brigade yn eu pencadlys yn Winchester, ac i fynd y diwrnod canlynol. Euthum a’m Cornet yn ôl i Mr Dafydd Morgan. “Tyrd efo fi a Wil Solo Horn i ti gael tynnu dy lun efo’r ricriwts, Chei di ddim cyfle eto”.

Yn ôl y llun, rwy’n cael fy adnabod fel “perthynas i Harry Garn”. Brawd fy mam oedd Harry ac, i mi, yn gymeriad hoffus, yn ddarllenwr, yn fethodus i’r carn; yn ddiddorol a chanddo ddychymyg byw. Efallai bod dipyn bach o “Walter Mitty” ynddo hefyd!
Ond mor wahanol i mi.

Idwal jones, Llanrwst (Pencader bryd hynny) yn pregethu ar “Cofiwch wraig Lot”. Dywedodd mewn geiriau tebyg mai hen “wlanan” oedd hi yn cael ei hadnabod wrth enw ei gwr. Doedd ganddi ddim enw ei hun. Ond cofiwch, i gysuro y chwiorydd yn y gynulleidfa, rwy’n cofio ambell i hen “gadach” o ddyn yn cael ei adnabod wrth enw ei wraig hefyd!
Ac i lawer, “Gwr Mary” ydwyf i;

Ond beth am y Band?
Ymunais â’r Band (B fawr cofiwch) ddiwedd haf 1938. Dim cyfarwyddyd. Cornet yn fy llaw. Chwythiad i gael rhyw fath o nodyn ohono. Darn o bapur gyda’r ‘scales’ arno, yn natural, sharps a fflats a’r ‘fingering’ wedi ei nodi 1 2 3. “Dysga Rheina”..
Ac i ffwrdd a fi i wneud fy ngwaith cartref. Cerdded trwy goed Cwmbowydd i’r Manod. Y cês bach du a’r corn yn fy llaw, yn goblyn o jarff, a chyn falched â Jingo!
Ar ôl cael crap go lew, cael ambell i ddarn i ymarfer fy nawn. “The bluebells of Scotland” oedd un ohonynt.

Mynd i’r cwt, y Bandroom, a gweld llythyr yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r gair “Royal”. Hwnnw wedi ei fframio a’i osod ar y pared ar y chwith. Mawreddog!
Cael fy rhoi yng ngofal yr annwyl Bob Roberts gyda’r second cornets. Dyna i chi wr bonheddig cwrtais a diymhongar. Cefais drafferth cyfri’r ‘pauses’ a phryd i ail gychwyn. Gyda’r ‘afterbeats’ hefyd. Ond Bob yn ei ffordd hamddenol a thawel yn fy rhoi ar ben ffordd. Ymhen amser cael dyrchafiad at Alec Llan i chwarae Solo Cornet a cholli cwmni Bob.
Galwyd Bob i’r Llynges, heb fedru nofio’r un strôc medda fo. Bu drwy’r ‘Battle of Java Sea’ ddiwedd 1941 pan suddwyd y “Prince of Wales” a’r “Repulse” gan y Japaneaid ond fe’i arbedwyd . Coffa da amdano.

Dyma enwau rhai o hogia’r Band, fel y cofiaf, ddechrau’r rhyfel.
Yr arweinydd William Williams (Wil bach Band) a’i fab hynaf Alec Llan, Robin Gwynant, Bob Roberts, Herbert Roberts, Steven Griffiths, Wil Edwards, Johnnie Rhiw (Shein), Tom Owen Llan, Dafydd, Bob a Huw Morgan, Gwilym Brynmor, Huw Dic, Dic Efflat Eryl Jones a minnau.
Ac, wrth gwrs, heb anghofio’r drymar, pan oedd angen, Tom Hughes y Comiwnydd mawr o’r Llan. Bu Tom yn gweithio yn mhyllau glo’r Maerdy (Moscow Fach) a’r creithiau gleision i’w gweld ar ei dalcen a’i drwyn. Yno, mae’n debyg, y bu’n ymarfer ei ddawn!
Ymhellach ymlaen a phethau yn galed a thenau arnom, deuai y brodyr brwdfrydig o Benrhyndeudraeth atom i rhoi hwb i ni sef Albert a Handel.

Cael hwyl a’n dwrdio hefyd tra’n ymarfer. Ambell i ddarn yn mynd ffwl pelt ac yn gorffen yn sydyn a dramatig ac ambell i un diniwed fel fi, yn difetha’r cwbl drwy roi nodyn cras ac unig ychwanegol ar y diwedd! Dro arall y Band yn llusgo ac yn “slyrio”. “Da chi hogia bach, triwch symud efo’ch gilydd. Mae gennych chi glystiau!” Wedyn plygu a churo a chrafu coes ei stand a gweiddi “Band Penmachno, Band Penmachno”. Beth bynnag oedd hynny yn ei olygu.
Gan Wil bach Band oedd y cornet awdurdodol ac i’r dim i’r ‘marches’ a’r darnau ‘forte’ cyflym. Credaf iddo gael ei alw weithiau gan fandiau mawr o Loegr i’w cynorthwyo. Ond gan Alec bach oedd y ‘tone’ hyfryd a swynol. Alec oedd meistr y cadenza.

Cofiaf, un gyda’r nos glos, ymarfer yn y Band Stand yn y Parc. Ambell dro mynd allan i’r stryd ac aros yma ac acw. I beth, gofynnwch? Y Band ddi-grant yn gorfod mynd i gardota.
Chwarae y tu allan i gapel Tabernacl. Nid wy’n cofio beth oedd yr achlysur: i gymanfa neu i gynhebrwng, tybed? Emynau y rhan fwyaf ond dechrau a diweddu gyda’r “Deep Harmony”. A thro arall o flaen yr Highgate yn Nhrawsfynydd. Eto, at ba achos, nid wyf yn cofio.
Ac yn gweu drwy’r cwbl oedd y Cymanfaoedd, a dawnsfeydd yn yr Hall a’r parêds.
Cofiaf, y tro cyntaf i mi, Gymanfa Ysgolion Sul y Methodistiaid ddechrau Mai. ‘Roeddwn yn rhy fach i gael iwnifform ond cefais gap pig lliwgar y Band. Efallai bod gennyf ben mawr yr adeg honno hefyd! Onid oedd gennyf reswm digonol! Aelod o’r Band!
Cerdded heibio Capel Gwylfa am y Blaenau, y genethod yn eu hetiau gwellt a’u ffrogiau newydd. Yr hogiau, fel finnau, mewn siwtiau a throwsusau bach. Pob un yn disgwyl am y lori addurniedig. Rhedeg i fyny ag i lawr o flaen y capel ag o amgylch y Goeden Pysl mwnci.
Ond, yma, goddefwch i mi air personol.

Gofid calon i mi hyd heddiw yw syllu ar yr hen gapel hardd yn ei gystudd hir. Y capel lle y priodwyd ni’n dau dros bum deg a phump o flynyddoedd yn ôl. Criw creulon cas yr hen Harry wedi ei werthu a’i droi yn lle i drwsio ceir.

Wedyn, ninnau’r Annibynwyr ddiwedd y mis, strydoedd yr hen dref annwyl yn llawn o wylwyr, ar hyd y pafinoedd ac ar bennau’r tai’n edrych ac edmygu yr orymdaith liwgar, y baneri a’r Band.

Daeth y rhyfel, ond cewch fwy am hynny y tro nesaf.
Llongyfarchiadau i’r Band, yr arweinydd, yr hogia a’r genod (erbyn hyn). Pob un o’r rhain, beth bynnag, yn feistr ar ei offeryn.
Codaf fy ngwydr. Y Band!
Fy ngofid mwyaf yw na fuaswn wedi medru bod yn fwy cefnogol i’w weithgareddau ar hyd y blynyddoedd. Mawr ddiolch i’r rhai sydd yn dal i wneud hynny.
Ond hen gadach Gwamal, di-hwb a di-feind fum i erioed.

Hanes am William Edwards (Y Pannwr), Gellilydan - gan Anti Cein

Hanes am William Edwards (Y Pannwr), Gellilydan. gan Anti Cein
Braint mawr fy mywyd yw cael dweud hanes am y diweddar William Edwards. Cefais ganiatad y teulu i ddweud ei hanes yn yr ysgrif yma.

Yn William Edwards cefais adnabod y dyn mwyaf gonest a gwreiddiol. Ar ddiwrnod ei angladd gofynnodd ei weinidog ‘Beth tybed yw gwreiddioldeb cymeriad?’ Gwyddom nad trwy addysg mo’i hanfod mewn oes fel hon, a’i phwys mawr ar werth addysg. Ceid llawer mwy o bobl wreiddiol yn yr oesoedd a fu. Pobl yn brin ei manteision addysgol oedd rhain i gyd. Un o’r dosbarth hwn oedd William Edwards, neu Y Pannwr oedd pawb yn ei adnabod yn ardal Gellilydan a’r cylch. Nid oedd yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Pannwr ydoedd wrth ei grefft, ac felly ei daid a’i dad o’i flaen. Ganed ym Mhandy Gwylan yn y flwyddyn 1874, yma treuliodd rhan helaeth o’i oes cyn symud i fyw i Preswylfa, Gellilydan ac fe’i claddwyd ym mynwent Utica, a dyma driongl daearyddol ei fywyd. Dyma y ddau le yma a fuodd byw ynddynt. Mae yr ardal lle ganwyd ef yn gyfoethog ei thraddodiadau a gwreiddiau ei diwylliant yn myned ymhell iawn yn ôl. Dyma ardal Edmwnd Prys, Lowri William, Pandy’r Ddwyryd, Huw Llwyd o Gynfal, y Twrne Llwyd o Gefn Faes a Phlas Penglannau, a’r hynod William Ellis, ac hefyd John Humphrey Gwylan, ffermdy mewn lled cae i Pandy Gwylan lle cerdda cristnogion i addoli yn y tŷ yma yn amser boreuol iawn a’r crefydd yn yr ardal yma dan arweiniad Lowri William. Hoffwn i roi enw William Edwards yn oriel yr Hen Gymeriadau yma hefyd.
Fel hyn rwyf yn cofio y Pannwr. Yr oedd yn ddyn tal, tenau a’i war yn gwywo. Roedd edrychiad ei lygaid yn dreiddgar a bywiog, roedd yn ddyn ar ben ei hun hollol, ac hefyd roedd yn wr eang ei ddiddordebau ag anghyffredin ei arferion. Meddai ei Dad a’i Daid rhyw gyffur cyfrin i dynnu y “Ddafad Wyllt” ac fe etifeddodd William Edwards y gyfrinach ganddynt. Ar hyd ei oes bu yn defnyddion’r cyffyr hwn i wella rhai a ddioddefai oddiwrth yr anhwylder hwn. Pwy yn ardal Gellilydan na chlywodd am “Eli Du Pannwr”? Deuai bobl ato o bell ac agos i gael meddyginiaeth, ac ni siomwyd neb. Cefais i dynnu “Dafad Wyllt” ar un o fysedd fy llaw dde ac mi fuodd yn llwyddiant, fel pob achos arall i bob un a gafodd y driniaeth. Dywedodd wrthyf fod tri math ar hugain o’r Ddafad Wyllt, a phob un yn gofyn triniaeth wahanol. Cyn iddo rhoi yr ‘Eli Du’ ar neb roedd rhaid iddo gael gwybod rhywbeth am drefn y corff y sawl oedd am ddefnyddio’r cyffyr yma. Roedd ganddo lawer o lyfrau ar iechyd y Ddynoliaeth, ac astudiodd rhain yn ofalus iawn. Un tro meddyliodd y gallasai wella y ‘blood poison’ gyda chyffur y ‘Ddafad Wyllt’ ac fe wnaeth arbrofion trwy dorri darn o groen ei fawd a chyllell gan dywallt gwenwyn i’r toriad. Mewn byr iawn o funudau dyma’r gwenwyn yn dechrau treiglo i fyny ei fraich - yn lein goch a dioddefodd boenau ofnadwy, yna rhoddodd yr ‘Eli Du’ ar y toriad a mawr oedd ei lawenydd fod y gwenwyn yn cilio dan ddylanwad y cyffur, felly gwelodd y gallai rhoi trinfa ar bobl a oedd wedi cael gwenwyn yn eu gwaed. Arferai ei Daid a’i Dad dynnu dannedd hefyd, cyn bod son am ‘Anaesthetic’. Ni wn beth a feddyliai deintyddion modern ein hoes ni o’u harfau hwy sef tair gefail fawr o wahanol ffurf. Rwyf yn gwybod fod William Edwards wedi defnyddio’r rhain hefyd ar aml un o’r pentref yma ac yntau wedi ei eni a’i fagu yn swn peiriant y Pandy, naturiol oedd iddo gymryd diddordeb mewn peirianneg. Gwnaeth arbrofion lawer iawn gyda’r peiriannau melinau gwlan. Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf yn y cylch yma i brynu cerbyd modur, nid am ei fod yn ariannog nac yn rhodresgar, ond oherwydd ei hoffter o bob math o beiriant. Roedd y modur hwn yn gyfleus i gludo brethynnau o’r Pandy i wahanol ffatrioedd, a gyda’r modur yr aeth i briodi heb ddweud gair wrth neb, roedd y cerbyd yn llawn o flancedi rhag i’r cymdogion amau dim. Daeth yn ôl yr un noson gyda Margiad yn wraig iddo. Roedd pawb wedi rhyfeddu ei fod wedi priodi. Dyn fel yna oedd o, yn un fedr gadw cyfrinachau iddo ei hun.

Gwelwyd ef yn flaenor yng Nghapel Maentwrog Uchaf pan oedd yn gymharol ieuanc. Roedd Pannwr yn wr duwiol heb fod yn sych ddywiol. Gallai fwynhau ei hun yn dysgu drama i bobl ifanc. Cefais i y profiad yma gydag ef pan oeddwn yn byw yn Llech-y-Cwm ac wedi bod mewn amryw o’i ddramau. Cael digon o hwyl yn ymarfer yn festri’r capel. Rhoes ei orau i’r ardal.
Bu yn glerc y Cyngor Plwyf am gyfnod maith, hefyd bu yn aelod o Gyngor Dosbarth Deudraeth, ac hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr ysgolion cylch Ffestiniog. Roedd yn gymwynaswr, ac ato ef y rhedai bawb mewn argyfwng. Roedd bob amser yn ddoeth ei gyngor a chadarn ei farn. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel. Rhoddwyd ef i orwedd ym mynwent Utica gyda Margiad eilun ei galon, ar Hydref 2il 1950.

Hoffwn ddweud tipyn o hanes teulu William Edwards. Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus cael cymorth gan y teulu - mae na dri o deuluoedd yn Nhanygrisiau ac un aelod yw Allan Jones, Y Gwyndy sydd wedi bod yn gymorth i mi ym mhob ffordd, mae ef yn un o hen deulu Y Pannwr. Un arall hefyd o’r teulu sydd wedi bod yma yn olrhain y teulu yn ôl i’w Mrs Nerys Butler, Pandy, Cefnddwysarn ger y Bala. Ar hyn o bryd mae yn gwneud coeden achau o’r teulu yma. Dywedodd lawer wrthyf am frodyr Taid Pannwr; roedd un yn feddyg, ac un arall wedi bod yn Rhydychen a’r hen Daid yn bannwr llwyddianus, ac felly gwelwch fod William Edwards wedi etifeddu doethineb yr hen deulu. Cefais y fraint i fyned mewn modur gyda Nerys a’i merch Sian i ddangos iddynt lle oedd “Pandy Gwylan”, cawsom sgwrs ddiddorol gyda Gwilym Lloyd, Ffermdy Tŷ Gwyn a’i ganiatad i weld yr Hen Bandy. Ar dir y fferm yma saif hen gartref y teulu Edwards. Dangosodd lle oedd yr olwyn ddŵr fawr yng nghefn y Pandy a’i phwrpas i droi peiriannau gwlan. Roeddwn wedi rhyfeddu ar y cerrig ardderchog oedd yn waliau yr Hen Dŷ a’r Pandy. Gwelsom y lle tân a’r llawr cerrig gleision. Roedd pob man yn daclus gan Gwilym, rhaid i ni gofio ei fod yn hen iawn, ac mynd yn nôl mewn amser. Y lle nesaf aethom oedd i Fynwent Utica, a dyma’r lle y cewch wybodaeth am deuluoedd sydd wedi gadael y fuchedd hon. Cafodd Nerys a Sian hyd i’r beddau i gyd o’r hen Daid a Nain, Tad a Mam, William Edwards a Margiad ei wraig ar ôl i’r hen deulu fyned o Bandy Gwylan a dod i fyw i Preswylfa yn y pentref. Daeth teulu arall i fyw i Pandy sef Ellis Hughes a’i wraig o Drawsfynydd, ac ar eu holau hwy daeth Thomas Williams a’i wraig, a cawsant saith o blant. Mae ‘na ddwy o’r plant yma yn byw yn y Blaenau, sef Mrs Bet Brown a’i chwaer Myfanwy. Cefais sgwrs ddifyr ar y ffôn gyda Bet yn dweud eu hanes fel plant yn mynd i Ysgol Gellilydan drwy’r coed a’r llwybrau, yn gwisgo clocsiau am eu traed. Roedd rhain yn cadw eu traed yn sych a chynnes. Rwyf wedi cael pleser yn sôn am Bandy Gwylan ac am William Edwards Y Pannwr a holl gysylltiadau y teulu annwyl yma.