Thursday, October 13, 2005

DWEUD EIN DWEUD

DWEUD EIN DWEUD
ar ddyfodol yr Ysbyty Coffa

‘DWEUD EICH DWEUD’ ydi teitl y llyfryn a elwir yn ddogfen ymgynghorol ar yr ADOLYGIAD O WASANAETHAU GOFAL IECHYD YM MLAENAU FFESTINIOG. Ond mae ei chynnwys eisoes wedi cythruddo canran uchel o boblogaeth y cylch, fel y gwelwyd yn glir iawn yn y tri chyfarfod a gafodd eu trefnu gan y Bwrdd Iechyd ar Gorffennaf 19, 20 a 21.

Yn ôl y ddogfen ‘Cynhelir ymgynghoriad eang rhwng 1 Gorffennaf 2005 a 23 Medi 2005’. Ond roedd bron i dair o’r wythnosau hynny wedi mynd heibio cyn i’r broses ymgynghori ddechrau o gwbwl! Ac yna caed mis Awst ar ei hyd! Mis y gwyliau.

‘Ymgynghoriad eang’? Go brin! Yn y Blaenau y cynhaliwyd y tri chyfarfod ond rhaid cofio nad gwasanaethau gofal iechyd y dref yn unig sydd dan fygythiad ond gwasanaethau ardal gyfan, a honno’n ymestyn yr holl ffordd o Ddolwyddelan i Drawsfynydd.
Agenda wedi’i threfnu naill ai’n flêr neu’n gyfrwys, ddwedwn i!

Swm a sylwedd y ddogfen DWEUD EICH DWEUD yw ceisio profi bod yn rhaid cau’r Ysbyty Coffa a’i droi’n ddim byd amgenach na chlinig a fydd yn gneud yr un math o waith â’r Ganolfan Iechyd bresennol. Fe gynigir inni 4 opsiwn i ddewis ohonynt ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol (gyda sêl bendith y panel a gaiff ei alw’n Grŵp Tasg a Gorffen) am inni dderbyn mai’r unig opsiwn ymarferol ydi DEWIS B. A dyma, air am air, be mae hwnnw’n ei gynnig:-

* Rhwydwaith o wasanaethau yn y gymuned gyda’i gilydd yn yr ysbyty (dim gwelyau cleifion mewnol)
* Tim ‘Ymateb Cyflym’ yn y gymuned i gynnig gofal i bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, gan gynyddu’r cyfleon i osgoi mynediad diangen i’r ysbyty a galluogi rhyddhau prydlon o’r ysbyty
* Gwell buddsoddiad a mynediad i amrywiaeth o wasanaethau iechyd a’r gymuned e.e. gwasanaeth trawiad y galon, gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, atal cwympiadau
* Amrywiaeth barhaus o wasanaethau cleifion allanol, gwasanaethau Mân Anafiadau a gwasanaethau Pelydr-X
* Rhoi grym a chynorthwyo ail-greu cymunedau lleol gydag amrywiaeth ehangach o wasanaethau gofal iechyd.

CWESTIWN:
Oes yna rywbeth yn y rhestr uchod nad ydyn ni’n ei gael yn barod neu y dylem ni fod yn ei gael beth bynnag?

A dyma beth y byddem yn ei golli efo DEWIS B? –
* ‘Darperir gofal cleifion mewnol mewn lleoliadau eraill’

CWESTIWN: Ymhle, felly?
ATEB: Ysbyty newydd Porthmadog wrth gwrs! Bydd hynny’n golygu teithio i fan’no (bob dydd, o bosib) i ymweld ag anwyliaid sy’n glaf. Meddyliwch am yr anhwylustod, yn enwedig yng nghanol traffig yr haf! A meddyliwch am y gôst! Meddyliwch hefyd, wrth gwrs, am y nifer o’r staff fydd yn colli eu gwaith.)
* ‘Ni fydd cleifion yn derbyn gofal cymdeithasol o gyfleusterau Gwasanaeth Iechyd Gwynedd mwyach.’

CWESTIWN: Ymhle fydd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnig ’ta?
ATEB Y BWRDD IECHYD: Nid ein problem ni!

Fe edrychwn ni rwan ar eu dadleuon nhw dros wneud i ffwrdd â’r Ysbyty Coffa -
* ‘Dim yn ateb anghenion y boblogaeth ehangach.’

CWESTIWN:
Os dyna’r gwir, yna bai pwy yw hynny, os nad bai’r Bwrdd Iechyd ei hun?
* ‘Adeilad ysbyty ddim yn addas i bwrpas darparu gwasanaethau iechyd modern.’ (Yr eglurhad - neu’n hytrach yr ESGUS - a gaed yn y cyfarfodydd oedd bod angen cyfleusterau ‘en suite’ mewn ysbyty modern. Hynny yw, pob claf efo lle molchi a thoiled iddo’i hun!!)
* ‘Dim yn gynaliadwy dros y 10 – 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i newid yn anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio.’ (Cynaliadwy = costio gormod!)
CWESTIWN: Ydi pobol ardaloedd eraill ddim yn heneiddio?
* ‘Parhau’n aneffeithiol gyda lefelau isel o ddefnydd gwelyau’
Ar hyn o bryd, does dim gwely gwag yn yr Ysbyty ac felly, fwy neu lai, mae pethau wedi bod yno ers wythnosau. Rhaid herio ystadegau’r Bwrdd Iechyd!
* ‘Dim yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau ariannol’
CWESTIWN: Bai pwy, os nad bai’r Bwrdd Iechyd ei hun?
* ‘Darpariaeth sylweddol o ofal cymdeithasol yn hytrach nag ymyrraeth iechyd’
CWESTIWN: Polisi pwy, os nad polisi’r Bwrdd Iechyd, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd lawer?

* * *

Mae llawer iawn mwy o ddadleuon gwag a sunigaidd yn y ddogfen nad oes digon o le i’w trafod yma, gwaetha’r modd, ac na chaed cyfle chwaith i’w gwyntyllu’n foddhaol yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Y gwir ydi bod y ddogfen yn sarhad ar ddeallusrwydd pobl y cylch, a phryder llawer ohonom rwan ydi mai ffârs hefyd fydd y cyfnod o ymgynghori, oherwydd bod y penderfyniadau pwysig wedi cael eu gneud eisoes, tu ôl i ddrysau caeedig.

Diwedd y broses ymgynghori fydd Cyfarfod Cyhoeddus ar Medi 23. O bosib mai yn Neuadd Ysgol y Moelwyn y caiff hwnnw ei gynnal. Mae Llafar Bro o’r farn ei bod yn hollbwysig, fod pob un ohonom sy’n pryderu am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y cylch (NID dyfodol yr Ysbyty Coffa’n unig, sylwer) yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, i ddangos ein hochor yn glir.

Yn y cyfamser, mae Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa wedi cael ei ffurfio ac mae hwnnw wedi bod yn brysur yn trefnu Deiseb a dwy Rali – un ar strydoedd y Blaenau ar Medi 21 (ymgynnull wrth yr Ysbyty am 10.30) a’r llall o flaen Adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd (dyddiad i’w bennu). Apeliwn ar i bawb o bob oed, ac o bob cymdeithas o fewn y gymuned, i gefnogi ymdrechion y Pwyllgor Amddiffyn, fel bod neges glir iawn yn cael ei chyfleu i’r rhai sydd am ein hamddifadu o’r gofal iechyd llawn y mae gennym i gyd yr hawl i’w ddisgwyl yn yr ardal hon.
Mae eich papur bro, yn ogystal â’r Pwyllgor Amddiffyn, am i’r Bwrdd Iechyd ystyried opsiwn gwahanol, sef Opsiwn y Bobol –

* Cadw’r ddarpariaeth bresennol, yn yr ysbyty a’r clinig pelydr-X
* Cadw’r ganolfan ambiwlans yn y dref
* Ail-agor y clinig ffisiotherapi yn Ffordd Tywyn
* Adfer y clinigau arbenigol a gollwyd heb unrhyw rag-rybudd yn ddiweddar
* Sefydlu uned loeren arennol (satellite renal unit) yn yr Ysbyty Coffa. GVJ

Mae’r Pwyllgor Amddiffyn yn apelio am gyfraniadau ariannol tuag at gost yr Ymgyrch i Amddiffyn yr Ysbyty a’r Gwasanaethau Iechyd. Bydd pob ceiniog yn dderbyniol. Gellir anfon cyfraniadau i’r Trysorydd Evan G. Williams, Bryn Marian, 140 Heol Manod LL41 4AH (Ffôn: 01766 830305)

Mae hyn yn amlwg wedi ysgogi pobl yr ardal wych hon i godi llais. Gweler hefyd lythyr ar y pwnc yma, colofn Munud i Feddwl, a sylwadau eraill oddi mewn. Cofiwch da chi ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y 23ain o Fedi.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home