Tuesday, January 25, 2005

GEIRIAU COLL

GEIRIAU COLL
Gyda threigl amser a gyda’r newid byd, fe aeth llawer o ddywediadau a geiriau ar goll yn yr ardal hon fel ag mewn sawl ardal arall. Er enghraifft, pwy o blant Stiniog, erbyn heddiw, sy’n gwybod mai rhywun digywilydd iawn ydi’r un a gaiff ei gymharu i ‘wagan gynta’r run’? Neu mai rhywun wedi gneud llanast o betha ydi’r un sydd ‘wedi gyrru’r wagan dros ben doman’? Neu bod ‘cael pen bar’ yn gyfystyr â chael ail, neu faglu trwy flerwch? Roedd rhain i gyd yn ddywediada-pob-dydd rai blynyddioedd yn ôl, pan oedd bri ar y chwareli.

Gair cyffredin arall ers talwm, ond un na chlywais ei ddefnyddio ers tro byd bellach, oedd ‘wàs’. Yn yr ardal yma, mi fyddai’n arferol cyfarch ffrind neu gydnabod trwy ofyn ‘Sut wyt ti, wàs?’ Mae ystyr hen iawn i’r gair, yn tarddu o ‘gwas’ yn golygu ‘gwr ifanc’ (nid y Saesneg ‘servant’, sylwer!). Doir ar ei draws yn eitha amal yn chwedlau’r Mabinogi, er enghraifft. Yr un gair yn union yn ei darddiad ydi’r ‘wâ’ (‘Sut wyt ti wâ?’) sy’n dal ar dafod leferydd pobol y Bala, a’r ‘washi’ (< ’ngwas i) a geir o hyd yn Sir Fôn. Chwith meddwl ein bod ni, yn yr ardal yma, wedi colli gafael arno. A be am rywbeth fel ‘Sut wyt ti ers talwm, ’achan’? Neu’r ebychiad ‘Achan, achan!’ i fynegi syndod? Mae hwn, wrth gwrs, yn tarddu o’r gair ‘fachgen’ ond erbyn heddiw mae yntau hefyd yn prysur farw o’r tir.

A be am ‘stèm’ a ‘hanner stèm’ am ddiwrnod neu hanner diwrnod o waith?Oes geiria neu ddywediada eraill i chi’n ffeindio’u colli? Os oes, yna cyfrannwch i’r golofn.

1 Comments:

At April 22, 2005 at 7:30 AM, Blogger Nwdls said...

Dwi o Ddolgellau, ond dwi rioed wedi clywed y dywediadau yna o'r blaen. Difyr ydyn nhw de, ond trist ydi colli cyfoeth iaith lafar leol. Mae Dolgellau ru'n fath, faint o bobol sy'n defnyddio 'gofnyd' a 'chafi' rwan.

Er dwi a sawl un arall o'm teulu dal i ddefnyddio ‘wàs’.

O'n i'n meddwl fod bachan yn ddywediad o Geredigion. Mae'n ewyrth i o Gapel Bangor yn deud "bachan bachan" drwy'r amser (lot gormod a deud y gwir!).

 

Post a Comment

<< Home