Tuesday, November 30, 2004

GLAW, MI DDAW FEL Y MYNN

GLAW, MI DDAW FEL Y MYNN
Golwg ysgafn dros y byd gan hen wr y Moelwyn

Sut un oedd hi i chi ta? Yr haf ‘lly: gwlyb ar y cyfan ia, ond ta waeth, roedd digon o bethau i godi’r galon doedd, rhwng Gŵyl Car Gwyllt arbennig arall, sesiwn fawr Dolgellau, a bar ar faes yr eisteddfod o’r diwedd!Er, dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath chwaith am ‘wn i. Roedd set Geraint Jarman yn ddiweddglo gwych a chofiadwy iawn i’r Car Gwyllt, ond dyma oedd brawddeg cyntaf erthygl amdano, yng nghylchrawn Golwg wythnos yn ddiweddarach [Mehefin 24ain]: “Geraint Jarman oedd prif artist Gŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog eleni, ond roedd yn well ganddo drafod taith yn ôl traed cerddor arall.” A dyna fo! Diolch, Ger! Dônt côl ys…

Am y sesiwn fawr, fues i ddim yno fy hun, (gorfod talu rwan ‘dwyt!) ond eisteddais i lawr yn eiddgar i weld arwyr Dawns y Glaw yn mynd trwy’u pethau ar y bocs. Och a gwae, roedd yr ‘ogia bron yn llythrennol anweledig, a ‘mond un gân gafwyd; gwell oedd gan s4c roi eu holl sylw i Cerys Mathews. Os am driniaeth seicoffantig ar y cyfryngau Cymraeg, dim ond troi eich cefn ar Gymru a symud i fod yn sgodyn bychan iawn ym mhwll enfawr Nashville sydd raid mae’n debyg. Fi sydd, ynta’ oedd perfformiad cyn-gantores Catatonia yn ddiawledig o wael? Roedd y gynulleidfa yn gwbl fflat, a neb i’w weld yn nabod y caneuon nac yn dod i hwyl. Ond os oedd y canu’n wael, roedd y sylwebaeth gan pundits dwy a dima’ s4c yn ddigon i roi’r pych i sant. A hwnnw, Twm Morys, ar ôl ei sgwarnog arferol yn dweud wrth Cerys mai dyna’r peth gorau iddo weld yn y sesiwn erioed! Be’?! Ych-a-fi.

Bu grwpiau y sesiynau gwallgofiaid yn gadael eu marc ar gystadleuaeth grwp newydd eleni, gan ymestyn dylanwad Stiniog ar y sîn roc, a bu Anweledig a Frizbee yn y stiwdio. Hirnos, albym cyntaf hogia Llan welodd olau dydd gynta’ ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn ar y radio, ac wedi cael adolygiadau ffafriol ar wefan unarddeg.com a gwefan C2. “Mae nhw'n fand byw anhygoel…..gyda llond trol o ganeuon cofiadwy”, ac meddai un: “Mae 'Dora Gusan' a 'Ti' yn ddwy gân anhygoel o wych, a 'dw i'm yn meddwl y gwna i fyth ddiflasu arnyn nhw”.Cryno ddisg o 5 cân ydi Byw, gan Anweledig, ac er na chefais fy nwylo ar gopi eto, mae Tikki Tikki Tembo wedi bod yn fy mhen ers wythnosau rwan, a gallwn ddisgwyl y safon uchel arferol. Gyda lwc, bydd adolygiad yn y rhifyn nesa.

Llyfr Robin Llywelyn ennillodd wobr goffa Daniel Owen yn Steddfod eleni, yn dilyn hynt a helynt cyn-filwr o Stiniog yn eisteddfod Meifod. Mae’n nofel digon diddorol a hawdd ei ddarllen, ond chlywis i neb yn y Blaenau yn dweud ‘glaswallt’ a ‘colag’. Hollti blew e’lla: prynwch o i weld eich hun. Roedd yr awdur yma ymysg ciwad o feirdd a gwladgarwyr a ddangoswyd yn mwynhau peint yn y bar ar faes yr eisteddfod rhyw ddiwrnod yno. Diddorol eu bod i gyd yn yfad y stwff du gwyddelig ‘na sy’n blasu fel triog a dail tafol. Y ddau gwrw arall oedd ar gael yn y bar oedd Brains – o Gymru, a chwrw Carreg –o wlad Belg OND, gan gwmni o Gymru. Go dda rwan hogia ni.

Tra bu hi’n bwrw, cefais gyfle i wylio DVD C’mon Midffild 5. Cawsom adolygiad o hwn yn atodiad Pastwn yn y rhifyn diwethaf ac meddai’r adolygwr “mae’n fain arna’i am feirniadaeth”. Rhown ni gynnig arni ta! Mae’r pennodau yn ddi-fai wrth reswm; dyma gomedi Cymraeg ar ei orau. Ond, dim ond tri sydd ar y DVD cyfan! A hyn mewn dyddiau pan geir ffilmiau pedair awr, gyda thrac sain mewn 4 iaith; sylwebaeth lawn gan y cyfarwyddwr, a hyd at ddwyawr o ddeunydd ychwanegol wedyn!! Tri phennod! Mae’r peth yn ddigywilydd uffernol. Rip-off byddai rhai yn ddweud! Fel ddywed pastwn, mae’r ddau eitem ‘bonws’ (ha!) yn wastraff llwyr o amser. Gwyddai cwmni Sain bod cynulleidfa parod yno, yn fodlon gwario ffortiwn eto, ar ben y set cyfa o fideos sydd ganddynt. Os na fydd o leia pump neu chwech pennod ar DVD 6, byddai’n well gen i roi fy nhrwyn mewn nyth cacwn na’i brynu.

Ta waeth, o leia mae’r tymor rygbi yn ail ddechrau rwan tydi. Er ges i dipyn o sioc wrth ymweld â gwefan y WRU wsos dwytha hefyd. Un o’u prif hysbysebion nhw ydi un am gêm gyfrifiadur am dîm buddugoliaethus Lloegr, gyda baner san Sior yn chwifio’n amlwg ar ben y dudalen! Anffodus.

Dwn ‘im os ydi fy nghlyw yn dirywio hefyd, ond mi daerwn imi glywed gwasanaeth newyddion Radio Cymru yn galw Equatorial Guinea y dydd o’r blaen yn Gini Gynadleddol. Be nesa’. Eto, byddai’n dda clywed bod y pleidiau gwleidyddol yn cynnal eu cynadleddau hydrefol yno deud ‘gwir. Ydi o rywle wrth ymyl triongl Bermiwda dudwch? Gallwn ond freuddwydio.

Wel, fel ddywed Gareth Glyn bob dydd ar y Post Prynhawn, ‘mi allwch ddweud ei bod hi mwy neu lai, bron iawn yn union ychydig eiliadau nes y bydd hi ddau funud a hanner cyn chwarter awr wedi pump; ar ei ben. Toc’, felly mi gauaf ei ben o am rwan ta, ond daliwch i gredu yn y cyfamser.