Tuesday, November 30, 2004

YCHYDIG O HANES Y BÊL-DROED YN Y BLAENAU

YCHYDIG O HANES Y BÊL-DROED YN Y BLAENAU
Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones

Y mis hwn, dyfyniadau, air am air, o nodiadau Ernest Jones yw'r cyfan o gynnwys y golofn:

Hanes am gêm o ryw fath yn 1883, ond ym 1886 y ffurfiwyd tîm y gellid ei ystyried fel tîm trefol. Yr oedd gemau yn digwydd rhwng y Blaenau a thimau o'r cylchoedd cyfagos yn yr 1880au. Yna, ym 1890 ffurfiwyd clwb mwy trefnus a chynhelid gemau ar gae a elwid Holland Park, ardal y Rhiw, ar odre Tomen Fawr Chwarel Holland. Yr oedd Cymdeithas Peldroed Glannau Gogledd Cymru yn cael ei sefydlu yn 1894 a'r awydd am gael clybiau peldroed yn tyfu yn Stiniog fel ymhobman arall. Bu'r Blaenau ymysg y clybiau cynharaf wrth ffurfio ym 1890 a hynny efallai oherwydd y llwyddiant mawr oedd wedi dod i ran un o fechgyn Stiniog, y Meddyg Robert Mills Roberts, un o dri mab Robert Roberts a ddewisodd meddygaeth fel gyrfa. Dechreuodd tad Dr Roberts ei yrfa yn y chwarel, ac yna bu'n athro ysgol ac yn rheolwr chwarel ac yr oedd ei fam yn hannu o deulu'r Mills, Llanidloes. Bu Robert Mills Roberts yn enwog fel peldroediwr pan oedd yn paratoi ar gyfer bod yn feddyg, a bu'n chwarae yn y gôl i Preston North End yn 1888-89. Chwaraeodd rai gemau i Stiniog ym 1890 gyda Dic Bach, Guto Cribau, Dic Gwilym Bach ac eraill. Ym 1898 symudodd Stiniog i chwarae i ardal Conglywal i ddarn o dir a gymerwyd wedyn gan chwarel Ithfaen, dros y ffordd i fynwent Bethesda. Yr oedd y cae yn Dinas, (Rhiw) yn wlyb ofnadwy a phan symudwyd i'r Manod yr anfantais oedd bod gwylwyr di-egwyddor yn 'cefnogi' oddi ar y llechweddau yn lle talu am fynd i'r cae (cyn hynny buwyd am gyfnod byr yn Nhanygrisiau). Symudwyd o'r Manod ym 1908 ac yna wedyn cwynai swyddogion Capel Bowydd. Ysgrifennodd y Parch. John Owen, Bowydd ar ran yr eglwys i'r Cyngor Dinesig i gwyno bod y chwarae peldroed o fewn ychydig lathenni i'r capel yn creu niwsans. Penderfynodd y Cyngor i alw am help yr heddlu ac i ofyn i berchennog y cae, Griffith Owen am ei gydweithrediad yntau. Yr oedd y cae dan sylw, (Parc Newborough) yn ganolog iawn ac yn eithaf gwastad ond yr oedd yn rhy fyr i gael gemau pwysig arno - gemau cystadleuaeth Gogledd Cymru, er enghraifft. Ysgrifennydd y clwb erbyn 1911 oedd John Tucker.' (i'w barhau)

Diolch i Mel ap Ior ac eraill am dynnu sylw at gamgymeriad yn yr ysgrif fis ddiwetha'. O stesion y lein fach draws y ffordd i hen orsaf B.R.- ac nid o Ddiffwys y daeth y cysgodfan i Gae Clyd. (Fy nghamgymeriad i, nid Ernest Jones.) Diolch hefyd i sawl un am ymateb yn gadarnhaol i'r erthygl, yn enwedig John Humphrey Evans o Rhyl (Dolrhedyn gynt) ar y ffôn â'i atgofion difyr am Orthin Roberts, un arall o gewri'r beldroed o'r ardal, ac eraill.