Tuesday, November 30, 2004

STINIOG YN STOMPIO ETO

STINIOG YN STOMPIO ETO
Gwyl Car Gwyllt a Stomp Stiniog


Yn dilyn llwyddiant llynedd cafwyd Stomp eto eleni, a stompar o ddiwrnod oedd hi ‘fyd! Fel y llynedd, cafwyd stondinau amrywiol ag adloniant drwy’r pnawn, ar lwyfan Radio Cymru, gan fandiau a chorau lleol. Roedd y cyflwynwyr poblogaidd Owain a Dylan yma yn darlledu’n fyw, gan roi ardal Stiniog ar y map eto, ynghyd â ffefrynnau lleol radio bro Stiniog, Tanwen, Leah, Gwil a Dafydd Ddu. Cafwyd perfformiadau cofiadwy gan Ffrisbi, Vates, Mim Twm Llai, Estella ac Anweledig, a cafwyd uchafbwynt trawiadol y jam cymunedol – Côr y Brythoniaid, plant Ysgol y Moelwyn a Mim Twm Llai. O gwmpas y maes parcio roedd nifer o stondinau, yn cynnwys stondin Menter y Moelwyn, oedd yn gwadd pobl ifanc i ymaelodi â’r grwp cymunedol Ffatri Jam, sy’n pwyso am ddatblygu Neuadd y Farchnad yn ganolfan gelfyddydol, gymdeithasol, gymunedol. Syniad gwerth ei gefnogi i’r carn.

Fel llynedd eto, coronwyd y cwbl gan gig Gwˆyl Car Gwyllt ar y llwyfan yn y nos. Cafwyd ein harwyr lleol, Anweledig, wedyn y rocars gwefreiddiol Kentucky AFC. Yna i orffen, y meistri, Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, a breuddwyd llawer un o weld Jarman yn chwarae’n fyw ym Mlaenau Ffestiniog yn cael ei gwireddu – a hynny ar y stryd, ar noson braf, ac am ddim! Roedd Gwˆyl Car Gwyllt wedi trefnu gig ar y llwyfan ar y nos Wener hefyd ond bu raid newid y cynlluniau ar y funud olaf a’i symud i westy’r Cwîns (dyna pam bo’r posteri’n hwyr yn dod allan!). Aeth y gig hwnnw i lawr yn dda, efo MC Saizmundo (rapiwr o’r Bala), Sleifar a Lo-Cut (rapwyr o Gaerdydd) a’r Hedcaseladz (rapwyr o Abertawe) yn cael eu dilyn gan neb llai na Llwybr Llaethog, un arall o fandiau ‘Stiniog sydd wedi gwneud eu marc yng Nghymru.

Bu hefyd noson lwyddiannus iawn yn y Tap ar y nos Iau, efo noson ‘Beirdd v. Rapwyr’, noson lle mae beirdd a rapwyr yn herio’u gilydd ar rap a cherdd. Y beirdd enillodd yn racs y tro hwn, a seren y noson oedd y bardd, Pod, a wnaeth i bawb grio chwerthin lawer gwaith. Doedd fawr neb o’r gynulleidfa wedi gweld noson fel hon o’r blaen, ond fel yr ai’r noson yn ei blaen roeddent yn ymuno yn yr hwyl gan gyfrannu eu rapiau a’u caneuon cofiadwy(!?!) eu hunain (Jiw Jeff a Paul Tom, cofiwch gadw’ch jobsys bara-menyn!).

Cystadleuaeth
Dyddiad Stomp Stiniog eleni oedd y 12ed o Fehefin, sy’n ddyddiad arbenig yn hanes Cymru. Mae wedi ei glustnodi yn Ddydd y Dywysoges Gwenllian, sef diwrnod cenedlaethol Gwenllian ferch Gruffydd ap Cynan, Brenin Gwynedd, gwraig Gruffudd ap Rhys, Tywysog Deheubarth a mam Yr Arglwydd Rhys enwog. Mewn bywyd arwrol a achubodd y Cymry rhag ddifodiant arweiniodd y rhyfelwraig hon ei byddinoedd mewn rhyfel hir yn erbyn y Normaniaid. Fe’i daliwyd, yn y diwedd, a’i dienyddio drwy dorri ei phen i ffwrdd ar faes y gad ger castell Cydweli yn 1136. Ond mae’r 12ed o Fehefin (1282) hefyd wedi’i gofnodi fel dyddiad tebygol genedigaeth tywysoges Gwenllian arall, sef Gwenllian ferch Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Wedi marw ei mam, Elinor, wrth ei geni, a llofruddiaeth ei thad gan wŷr Edward I ger Llanfair ym Muallt chwe mis yn ddiweddarach, cipiwyd y baban Gwenllian a’i rhoi mewn lleiandy yn Sempringham, ac yno y bu hyd ei marw yn 54 mlwydd oed – heb wybod pwy, na beth, oedd hi. I gofio’r ddwy Wenllian a’r hyn â gynrychiolant trefnodd Gwˆyl Car Gwyllt a Menter Iaith Gwynedd gystadleuaethau arbenig i blant ysgolion ardal Llafar Bro gynhyrchu lluniau, ysgrifau a thraethodau am y ddwy dywysoges. Yr enillwyr oedd Gethin Humphries, Aron Gruffudd, Iola Wyn Jones, Lois Williams, Mared Emlyn Parry a Bethan Edwards, i gyd o Ysgol Bro Cynfal, Llan, a Llio Maddocks a Sion Tomos o Ysgol y Moelwyn. (Gyda llaw, dylai’r cryno-ddisgiau wedi eu harwyddo gan y bandiau fod wedi’ch cyrraedd erbyn i chi ddarllen hwn!).

Ar y Car Gwyllt am Llan
Gorffennwyd penwythnos y Car Gwyllt drwy fynd a’r ŵyl i lawr i Llan am y tro cyntaf ers tro byd. Cafwyd perfformiadau gwych gan fandiau ifanc gweithdai’r Gwallgofiaid a bandiau eraill o Wynedd yn y Pengwern drwy’r prynhawn. Roedd y safon uchel cyson yn syfrdannu. Mae’r bandiau yma i gyd yn siwr o gael sylw yn fuan a bydd enwau fel Cabalatsio a Gola Ola yn dod yn rhai cyfarwydd i bawb. Yn y nos cafwyd perfformiadau gan Ffrisbi, Gogz a Vates. Noson dda iawn – yn enwedig am fod Lloegar wedi colli i Ffrainc ar y ffwtbol.....Allez!

Diolch
Aeth llawer o waith i mewn i drefnu’r Stomp a’r Car Gwyllt a dylai’r fro fod yn ddiolchgar i Lleisiau (yn enwedig Lei, a weithiodd ei hun yn sâl!) a phwyllgor Gwˆyl Car Gwyllt (yn enwedig Rhys Anweleds) am gydlynnu a threfnu’r holl ddigwyddiadau. Mae’n fraint bod bandiau gorau Cymru yn dod i Flaenau i chwarae. Diolch hefyd i Radio Cymru a’r criw, Menter Iaith Gwynedd (a’r ddwy Angharad), a Complete Control Music, ac i’r holl wirfoddolwyr, cymdeithasau a chynrychiolwyr awdurdodau perthnasol a helpodd i sicrhau diwrnod, a phenwythnos, i gofio. A diolch arbenig eto eleni i fois clwb rygbi Bro am y gwaith hollbwysig o stiwardio. Heb anghofio’r cerddorion a’r cantorion, ac Arwel am drefniant cerddorol bythgofiadwy arall. Flwyddyn nesa eto, bawb!

Dewi Prysor