Tuesday, November 30, 2004

DYLAN ROWLANDS - TELYNOR PORTMEIRION

DYLAN ROWLANDS - TELYNOR PORTMEIRION
Adolygiad gan Caryl Thomas
Ers deng mlynedd bellach, mae Dylan Rowlands wedi bod yn canu’r delyn yng ngwesty Portmeirion. i bawb sy’n gyfarwydd â’r pentre unigryw mae’n anodd dychmygu lle mwy godidog a hudolus, ac heb os nac oni bai, mae’r delyn a’i thinc swynol yn gweddu i’r lleoliad a’r naws arbennig a greir yno. Mae miloedd yn ymweld â’r pentre bob blwyddyn o bob cwr o’r byd, ac yn cael eu diddanu a’u swyno gan ddawn Dylan ar y delyn.

Mae Dylan wedi sylweddoli ers blynyddoedd pwysigrwydd dewis cerddoriaeth addas sy’n galluogi ei gynulleidfa i ymlacio, a dyma a glywn yn ei gryno ddisg cyntaf. Mae yma gasgliad bendigedig o ganeuon - yr hen ffrefrynnau Cymreig megis ‘Dafydd y Garreg Wen’, ‘Suo Gân’ a ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, yn ogystal ag alawon newydd cerdd dant sydd efallai ddim mor gyfarwydd i’r glust, ond yn bendant yn hyfryd i’w clywed ac yn haeddu cael eu cynnwys. I’r rheiny sy’n hoffi cerddoriaeth Andrew Lloyd Webber, mae yma ddwy o’i ganeuon mwyaf enwog ‘All i ask of you’ a ‘Pie Jesu’, a hefyd teyrnged i fiwsig clasurol gyda ‘Canon Pachabel’ a ‘Panis Angelicus’.

Dylan ei hun sydd wedi trefnu pob cân ar y CD, a thrwy wneud hynny wedi llwyddo i greu cyfanwaith llwyddiannus ac unigryw. Mae ei bersonoliaeth yn tanlinellu’r gerddoriaeth, ac mae’n bleser gwrando ar ei harmonïau dyfeisgar ac amrywiadau celfydd. Nid darllen difeddwl nodyn wrth nodyn, mesur wrth fesur sydd yma, ond dyfeisiwr naturiol wrth ei grefft. Mi ddylai’r CD yma ysgogi ac ysbrydoli’n telynorion ifainc i ddatblygu ymhellach pan yn trefnu rhai o’n halawon. Mae sain y delyn Lyon & Healy yn fendigedig, a rhaid llongyfarch y tîm cynhyrchu ar glirdeb a safon y recordio.

Pleser o’r mwyaf yw gwrando ar y CD hon - mae’n haeddu lle mewn unrhyw gasgliad. Mae’n hen bryd i un o delynorion mwyaf prysur Cymru ddod i’r amlwg fel unawdydd, a chael y cyfle i ddangos ei ddawn nid yn unig i’r genedl gartref, ond hefyd i’w gefnogwyr ledled y byd.

0 Comments:

<< Home