Tuesday, November 30, 2004

STINIOG A RHYFEL CARTREF AMERICA

STINIOG A RHYFEL CARTREF AMERICA
Er nad adolygiad o lyfr yw’r llith isod, tynnaf sylw at bytiau perthnasol ynddo sy’n cyfeirio ar ran o ddalgylch ‘Llafar Bro’.

Yng nghyfrol hynod ddiddorol Jerry Hunter ar y Cymry a Rhyfel Gartref America ‘Llwch Cenhedloedd’ (Gwasg Carreg Gwalch) rhoddir sylw i rai o Flaenau Ffestiniog oedd â chysylltiad a’r rhyfel. Ar dudalen 251 ceir cyfeiriad at Rowland Walters, brodor o’r dref a oedd wedi ennill cryn enwogrwydd fel bardd yn eisteddfodau America, dan yr enw barddol Ionoron Glan Ddwyryd. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd Rowland yn 42 oed, ac nid ymrestrodd â’r fyddin. Ond, serch hynny bu i sawl darn o farddoniaeth o’i law ymddangos ym mhapurau Cymraeg America a’r hen wlad i atgoffa’r darllenwyr o erchyllterau’r rhyfel honno, ynghyd a marwnadau i’r dynion a gollwyd ar faes y gad. Gwelir cofnod o’r teulu ‘Walter’ yng nghofnodion cyfrifiad 1851 Blaenau Ffestiniog, yn trigo yn Cefn Faes House. Cofnodwyd fod Rowland, chwarelwr 32 oed, yn byw yno gyda’i rieni, brawd a dau wyr a wyres i’w rieni. Tybir iddo ymfudo i’r Amerig y flwyddyn ddilynol 1852. Bu farw yn Fairhaven, Vermont ym Mawrth 1884.

Gwelir cyfeiriad yn y llyfr hefyd (tt.236 i 238) at Joseph Humphrey Griffiths, genedigol o Flaenau Ffestiniog a oedd wedi ymfudo gyda’i deulu i’r Amerig pan oedd yn blentyn, ac wedi ymrestru â’r ‘5th Iowa Cavalry’ pan oedd yn 18 oed yn ôl yr awdur. Dywed iddo gael ei gymryd yn garcharor i ganolfan carcharorion rhyfel yn Andersonville, lle bu farw dan amgylchiadau erchyll, a chladdwyd ef ym mynwent y carchar. Cyhoeddwyd penillion a gyfansoddwyd gan ei dad er cof amdano yn un o bapurau Cymraeg America y cyfnod. Mae enw Joseph i’w weld ar gofnodion cyfrifiad Blaenau Ffestiniog am 1851, yn blentyn pedair oed gyda’i rieni, Humphrey a Margaret Griffiths a chwaer bump oed, yn rhif 2 Uncorn yng nghanol y dref.

Enwau eraill o’r Blaenau a ddygid i sylw yw Owen M. Thomas ac Elinor ei wraig, ‘gynt o Ddolgarregddu, Ffestiniog’, a oedd wedi mudo i Fairhaven. Yn y gyfrol ceir cyfnod o gydymdeimlad y ‘Cenhadwr Americanaidd’ â’r teulu o golli eu mab 17 oed, John, milwr gyda’r 5ed gatrawd o wirfoddolion Vermont, a laddwyd ym mrwydr Wilderness, Virginia, ar Fai 5, 1864.

Tybed a oes disgynyddion i’r teuluoed duchod yn dal i fyw yn yr ardal? Gadewch i’r ‘Llafar’ wybod os ydych yn perthyn.
V.P.W.