Tuesday, January 25, 2005

ATGOFION BACHGEN yn STINIOG yn yr 1940au

ATGOFION BACHGEN yn STINIOG yn yr 1940au
Emlyn Edwards yn 1952, pan ymunodd â’r heddlu yn Wrecsam

Gwelais lun yn ‘Llafar Bro’ ychydig yn ôl o Lewis Lloyd gynt, pan oedd yn flaenor yn Tabernacl, cyn i’r capel gael ei gau a’i ddymchwel. Llifodd atgofion hapus yn ôl imi oherwydd roedd Lewis Lloyd yn byw drws nesaf ond dau i ni; dros y ffordd i siop barbwr Tom Davies gynt.

Roedd yn ffrind agos i ni i gyd fel teulu ac i mewn ac allan o’n tŷ ni fel y mynnai. Bu’n gyfaill pysgota selog i’m tad, Rhys, a byddent yn mynd gyda Twm Huws i sgota’n aml, weithiau dros nos - llynnoedd Manod a Graig Ddu gan amlaf os cofiaf. Byddent yn cadw League Table rhwng y tri - pwy fyddai’n dal y gorau dros dymor. Fy nhad a Twm Huws yn herian ei gilydd ac yn chwarae triciau â Lewis - sbort ddiniwed. Daliodd fy nhad frithyll go dda un tro a dyma fo a Twm yn cynllwynio’n ddirgel i guddio’r un ddaliwyd mewn dŵr a mwsog, a chymeryd arnynt y tro nesaf ei fod wedi ei ddal o’r newydd. Byddai Lewis angen ei deimlo a’i fysedd cywrain - ac ar amrant byddai’n gwybod eu bod wedi ceisio ei dwyllo! Byddai Lewis hefyd ar ôl dod gartref o’r mynydd wedi ‘sgota yn y tywyllwch dros nos, yn llamu’n hyderus dros y llwybrau, wedi arfer a hwynt - fy nhad a’i gyfaill yn bwyllog ac ansicr. Byddai Lewis wedi ennill y blaen arnynt ac yn eu herian!

Cefais brofiad difyr rhwng tua 12 - 14 oed yn tywys Lewis y tiwniwr piano dall i wneud ei waith yn y cylch. Fy nyletswydd oedd ffeindio’r tai a’r neuaddau, a.y.y.b., iddo er mwyn iddo diwnio’r pianos ynddynt. Byddai’n cael ei alw i gylch eang yn cynnwys Pwllheli, Betws y Coed, Maentwrog, Porthmadog ac mi fyddwn yn cael hwyl iawn gydag o. Roedd yn gwmni diddan a thra’n tiwnio am tua awr buaswn yn cael ei adael ac yn mynd ar antur yn y fro newydd o gwmpas ac yn dod i’w nôl wedi iddo orffen. Roedd croeso cynnes iddo ym mhobman ac ambell i bryd o fwyd blasus hefyd i’w gael.

Bûm sawl tro gydag ef ar bnawn Sul yn tiwnio’r piano yn y Forum - yr hen sinema yn Dorfil – ar gyfer y ‘Sacred Concert’ a fyddai’n cael ei gynnal y noson honno. Byddai’r unawdwyr enwog yno hefyd yn ymarfer (a’r bandiau anhygoel). Byddai y mwyafrif o’r unawdwyr yn sgwrsio gyda Lewis a minnau yn hollol naturiol. Perfformiodd sawl unawdydd o fri yno yn y cyfnod a buasai’n ddifyr gweld yr hysbysebion o bapurau lleol pwy oeddynt - David Lloyd yn eu plith!
Mi ddois i sylweddoli mai fi oedd ei lygaid. Ar y cychwyn, byddai yn fy holi am bopeth ond yn fuan dois i sylwebu iddo, ac ymhen amser roedd yn fraint i gael bod yn ei gwmni - cymeriad hoffus yn gwneud yn ysgafn o’i anabledd.Mynychai fy rhieni ‘whist drives’ yn y cyfnod (cyn Bingo) ac fe fyddai Lewis yn gresynnu na chai ef chwarae ynddynt; oherwydd roedd yn chwaraewr campus gyda chardiau ‘braille’ yn ein tŷ ni.. Trefnodd fy rhieni a chydig o ffrindiau yrfa chwist iddo acw, ac ni fyddai neb yn synnu mai Lewis fyddai’n ennill. Roedd dawn canolbwyntio a dawn cofio anhygoel ganddo. Enghraifft arall oedd hon: Ar ôl gwrando canlyniadau peldroed ar y radio (radio a gyflwynwyd iddo gan Gymdeithas y Deillion), fe groesai’r ffordd o’i gartre i Siop Tom Barbwr a gallai ail-adrodd bob un canlyniad! Roedd y siop barbwr yma, gyda llaw, yn ganolfan gymdeithasol ardal y ‘Don’ fel y’i gelwir. Yno byddai fy nhad yn cael pres poced derbyniol gan Tom am ‘laddro’ wynebau dynion yn barod i Tom eu shafio! - efo rasal hen ffasiwn ‘cut-throat’ wrth gwrs.

Lewis oedd un o’r ychydig rai yn yr ardal oedd yn berchen radio, bryd hynny. Yn ddiweddarach, fe gawsom ni radio KB gyda ‘wet batri’ ynddi a llathenni o weiars i bolyn uchel oedd yn gneud fel erial ym mhen draw yr ardd gefn. Cofiaf hi mewn blwch mawr pren wedi ei bolishio ac arni ‘KB. As fitted in the Queen Mary’!Mae canlyniadau pel droed (a phob math o chwaraeon) tros y byd i’w cael o fewn eiliadau heddiw ar y ‘Satellite Cable’ ac yn y blaen. Yn y 1940au, ar y radio’n unig y gellid cael y canlyniadau, neu aros mewn criw tan tua 9 o’r gloch y noson honno i’w darllen yn ‘Stop Press’ y ‘Liverpool Echo’ a fyddai cyrraedd ar y trên hwyr o’r ‘Junction’.

Bu Lewis yn ffodus iawn, ar ôl colli’i dad, i gael Mair yn wraig. Morwyn yng nghartref y deillion yn Abergele oedd hi ar y pryd. Trodd allan i fod yn golofn o gryfder i’w gŵr oherwydd fe ddysgodd yrru car bach ac fe ledwyd gorwelion y ddau.Dylanwad mawr arall arnaf yn fy machgendod oedd Capel Bethania …

(Diolch i Emlyn Edwards, Wrecsam, am yr atgofion hynod o ddifyr hyn. Bydd yr ail ran ohonynt, sy’n edrych yn ôl ar ei gyfnod gwaith yn y Coparet yn ymddangos yn rhifyn Chwefror. Diolch iddo hefyd am ei rodd hael tuag at gystadleuaeth i ieuenctid y cylch. Mae’r gystadleuaeth honno eisoes ar y gweill – Gol.)

0 Comments:

Post a Comment

<< Home