Thursday, October 13, 2005

SGOTWRS STINIOG

SGOTWRS STINIOG
Y Gog Lwydlas
Diolch i Mrs Mair Jones, Cwm Cynfal, am ymateb i’m ymholiad ynglyn â’r gog, sef pryd y cafodd ei glywed gynharaf yn ein hardal. Roeddwn i wedi ei glywed yn galw ar y 30ain o Ebrill yn ardal y Manod, ond clywodd Mrs Jones a Heulwen, ei merch, y gog yng Nghwm Cynfal ar y 24ain o Ebrill.

Yn ei draethawd ‘Llen-Gwerin Meirion’, a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog yn 1898, mae William Davies yn nodi y coelion a oedd yn bod ynglyn a chlywed y gog am y tro cyntaf. Meddai -
‘Mae clywed y gog yn canu am y tro cyntaf heb arian yn y boced yn arwydd o flwyddyn lom a thlawd. Os glywid y gog ac arian yn y boced yna roedd angen troi yr arian er mwyn sicrhau blwyddyn lwyddiannus.

Os byddai i rywun glywed y gog am y tro cyntaf ac yn digwydd bod yn sefyll ar dir glâs, arwyddai hynny lawnder a chysur a byd da. Os y digwyddid a’i chlywed yn agos i’r ty, byddai hynny yn arwydd y ceid newydd da yn fuan.
Os y gog a ganai cyn Calan Mai, yna byddai yr enllyn (caws, menyn, ayb) yn rhad; ond os y byddai’n canu yn gynnar, yna drud a fyddai’r enllyn.
Gwcw Calanmai - Cosyn dimai.
Gwcw Gwyl Fair - Cosyn tair.

Pysgota’r Sewin
A ninnau fel sgotwrs wedi cyrraedd mis Medi, sef mis olaf ‘Tymor y Brithyll’ mae’r diddordeb a’r pwyslais yn awr yn symud oddi wrth y llynnoedd a’r brithyll cyffredin, ac ar y sewin, - y brithyll ymfudol, - ac i’r afonydd. Mae rhai wedi cefnu ar y llynnoedd a throi at yr afon ers rhai wythnosau.

Wrth gwrs nid pob sgotwr sydd â diddordeb mewn mynd i chwilio am sewin - neu gwyniedin fel mae eraill yn ei adnabod, - yn rhai o’r afonydd sydd o fewn cyrraedd. Ond gall wneud hynny fod yn brofiad newydd a gwahanol, ac hefyd yn brofiad diddorol.
‘Onid her yw galwad hon?
Rhyfedd yw tynfa’r afon’
- meddai D. Gwyn Evans mewn cywydd, - ac mae mynd ar ôl y sewin yn dipyn o ‘her’.
Yn ddiweddar bum yn pori rywfaint yn llyfr Gaeam Harris a Moc Morgan ar bysgota y pysgodyn enigmatig yma, - sef, ‘Successful Sea Trout Fishing’. Mae yn llyfr sy’n llawn o awgrymiadau ac o gyfarwyddyd ar sut i fynd ati i ddenu y sewin i’r gawell. Mae’n ddarllen diddorol.

Pennod y bum i’n aros uwch ei phen am beth amser yw’r un am y plu sy’n cael eu defnyddio, ac am ei hamrywiol batrymau. Mae dewis pur eang ohonynt.
Un peth y mae’r awduron yn ei bwysleisio yw pwysigrwydd y lliw du sydd ym mhatrymau amryw o’r plu. (Er mae Kingsmill Moore, awdur y clasur o lyfr ar bysgota’r sewin yn Iwerddon, sef ‘A Man May Fish’, yn dweud mai nid lliw ydi ‘du’ ond absenoldeb lliw).
Pa’r un bynnag am hynny, mae ‘du’ yn amlwg yng nghawiad sawl pluen sydd yn llyfr Harris a Morgan, - un ai yn y corff, y traed, neu yn yr adain. A chyda’r du mae arian neu wyn yn mynd law-yn-llaw, fel petae.

Ymhlith y plu a ddisgrifir gan y ddau awdur y mae dwy bluen, sydd yn engreifftiau da o hyn, sef y rhai a elwir yn ‘Moc’s Cert’, a ‘Blackie’. Mae y ddwy yma’n ddu drostynt gydag arian yn gylchau am y corff, a dwy bluen wen oddi ar war ceiliog y gwyllt wedi eu rhoi wrth lygad y bach. Yn wahanol i sawl pluen sewin arall does dim cynffon gan y naill na’r llall o’r ddwy bluen.
Dyma batrwm y bluen ‘Moc’s Cert’ yn llawn, rhag ofn y bydd o ddiddordeb i rai sy’n mynd ar ôl y sewin ac am roi cynnig arni.
Bach Maint 4 i 10
Corff Hanner ôl o arian; hanner
flaen o arian llydan amdano
Traed Ceiliog du
Adain Blewyn wiwer du, gyda phlu
cynffon paun gwyrdd (‘sword’)
dros y blewyn wiwer
Bochau Ceiliog y gwyllt - pluen
fechan wen

Mewn colofn papur newydd yr oedd Moc Morgan yn ei chynnal yn ôl yn Chwefror 1987, mae yn disgrifio sut y daeth y bluen arbennig yma i gael ei chreu a’i chawio. Bu iddo ef a thri neu bedwar o bysgotwyr sewin eiddgar ddod at ei gilydd, ac, wedi cryn dipyn o ddadlau ac ymresymu, o bwyso ac o fesur, o dipyn i beth cytunwyd ar y patrwm uchod.
Gyda llaw, y bluen ‘Blackie’ sy’n cael ei hargymell i bysgota sewin, hon yw’r bluen a fu’n gweithio’n dda iawn yn Llyn Brenig flynyddoedd yn ôl pan agorwyd y llyn hwnnw i’w bysgota. Efallai y caf son am hon rywbryd eto.
Pob hwyl ar y pysgota am hynny o’r tymor sy’n weddill.

Cystadleuaeth
Gair i atgoffa ieuenctid yr ardal fod yna gystadleuaeth bysgota i’w chynnal ar Llyn Ffridd y Bwlch ar yr 11eg o fis Medi. Dechreuir am 10.00 o’r gloch y bore, a bydd yn dod i ben am 4 o’r gloch y pnawn. Y tâl am gystadlu fydd £4.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home