Thursday, October 13, 2005

STOLPIA

STOLPIA
Bwyta yn y chwarel gynt
Nid oes dwywaith amdani hi bod bwyd a diod chwarelwyr yr oes bresennol yn dra gwahanol i’r hyn a geid yn nyddiau cynnar y diwydiant llechi. O beth ddeallaf, y mae gan rai o chwareli’r oes hon gaban neu ffreutur glan a chysurus gyda chegin fodern a dewis da o fwyd ffres a maethlon ar gyfer y gweithlu. Gall chwarelwr heddiw archebu ei bryd bwyd yn boeth neu’n oer, fel y mae’n teimlo ac eistedd wrth fwrdd i’w fwyta. Wrth gwrs, roedd pethau yn dra gwahanol yn oes ein teidiau a’n hendeidiau, onid oeddynt?

Yn ôl hanes cynnar chwarel y Manod cwynodd William Pritchard ym mis Hydref 1804 nad oedd gan y gweithwyr unman i ymochel tywydd garw’r gaeaf nac unlle gyda tho arno i fwyta eu bwyd. Druan ohonynt, ddywedaf i, a phwy a fuasai’n eu beio am wrthod gweithio dan ffasiwn amodau ar lecyn sydd dros 1600 troedfedd uwchlaw arwynebedd y môr. Yn dilyn, ceir agweddau eraill o fywyd ein hen chwarelwyr.

Y fasged fwyd
A ydych wedi meddwl sut y byddai’r hen chwarelwyr yn cario eu bwyd i’w gwaith cyn dyddiau’r tun bwyd neu’r bocs bwyd, fel y tueddir i’w alw heddiw. Ar un adeg, edrycha’n debyg iawn fod rhai o’r chwarelwyr yn cludo eu bwyd i’r gloddfa mewn basged. Dyma hanesyn ‘digrif-ddwys’ am y pwnc o Hunangofiant Robert Williams, Cae Engan, Llanllyfni a ymddangosodd yn Cymru O.M. Edwards am y flwyddyn 1899:

Bore Oes Chwarelwr 1813-1839 ....... ‘Ar ôl hynny, aeth fy nhad i weithio i Gloddfa’r Lôn at David Griffith, Ty Mawr. Yr unig beth hynod wyf yn gofio a gymerodd le tra yno oedd i lwmp ergyd ddisgyn ar fasged bwyd David Griffith tra roedd fy nhad ac yntau yn bwyta ganol dydd. Gweithio yr oeddynt ar ben y domen uwch ben llyn Nantlle heb yr un wal. Clywsant swn ergyd yn y chwarel ac edrychasant i fyny, a gwelsant lwmp mawr yn hofran yn yr awyr uwch eu pennau. Codasant i fyny ar y foment, a chiliasant o’r ffordd gorau y gallent, a disgynnodd yntau ar y fasged bwyd oedd ar y pentwr llechau oedd fy nhad wedi eu hollti i David Griffith i’w naddu. Gan hynny roedd rhwng y ddau yn y fan yr oeddynt yn gweithio. Malodd y fasged a’r bwyd yn chwilfriw, ynghyd a’r pentwr llechau. Cefais i ddarnau o’r gwyneb a’r gwaelod o’r fasged i wneud trol bach.’
Wel, mae’n rhaid fod rhagluniaeth fawr y nef yn gwenu ar y ddau y diwrnod hwnnw, onid oedd?

Y Piser bach
Ceir ambell gyfeiriad hefyd mewn hen atgofion am ein chwareli at ddefnyddio piser neu ‘biser bach’ i gario ymborth y chwarelwr. Daw’r enghraifft canlynol o gyfrol un a dreuliodd rhan gyntaf ei yrfa yn rhybelwr bach yn Chwareli Cilgwyn a Dorothea, Dyffryn Nantlle, ond fel sawl un arall, a adawodd y chwarel a mynd i’r weinidogaeth yn ddiweddarach, sef Y Parchedig Owen G. Owen ‘Alafon’ (1847-1916).

‘Rhoddir yma yr hyn y dywed traddodiad oedd englyn cyntaf y bardd. Pan yn fachgen ieuanc yn gweithio yn Chwarel y Cilgwyn yn ôl arfer y chwarelwyr, dygai ei fwyd yn y “piser bach”. Un diwrnod anghofiodd ei lwy ac fel hyn yr ymfflamychodd:

A oes dim llwy yn y llys, - er chwilio
A chwalu’n ofalus;
Gwyddoch yn dda nad gweddus
Bodio bwyd â bawd a bys.

Y fasged a’r piser
Deuthum ar draws y cofnod nesaf ‘ma mewn ymateb i Atgofion Ned Pugh am Chwarel Braich y Cafn (Chwarel Penrhyn heddiw) a ymddangosodd yn y Drych. Cyhoeddwyd yr ymateb dan y teitl Chwarelwrs yr Hen Amser ym Maner ac Amserau Cymru, Chwefror 9, 1895. Yn yr hanesyn hwn cawn gyfeiriad diddorol at fwyd y chwarelwr a’r ddeupeth a enwir uchod, yn ogystal a hanes hen gyfaill tebol:

‘Ein bwyd ni fyddai powliad o frowas bara ceirch, am y safai llwy ynddo i frecwast, cilcen torth a lwmp o fenyn yn y fasged bren, a phiseriad o laeth tew fel grual. Pan agorem y cauad, byddai caenen o rew dros ei wyneb yn y gaeaf, er hynny, yfem ef. Ond y mae rhain yn sgrythu yn y cytiau yma. ‘Does ryfedd fod yr oes yn mynd yn wanach. Ychydig o ddynion welwch chi yn awr fel Robin y Fron. Yr oedd Robin yn ddwy lath a dwy fodfedd yn nhraed ei sana, ac yn mesur chwech a deugain o dan ei geseiliau, a’r un faint yn union yn ei dynewyn. Yr oedd yn rholyn crwn fel coeden’

Gan mai cyfeirio at chwareli Arfon y mae’r dyfyniadau uchod, mae’n rhaid imi fod yn blwyfol unwaith eto a gofyn, tybed a wyddoch chi am enghriefftiau o chwarelwyr ‘Stiniog yn cario eu bwyd mewn basged neu biser i’w gwaith? (I’w barhau)

Ymholiadau
Tri ymholiad bach i orffen. Yn gyntaf, pwy all dweud wrthym beth yw cynnwys ‘Pwdin Stiniog’ neu’r Ffestiniog Pudding a grybwyllir mewn hen lythyr yng nghasgliad Rheilffordd Ffestiniog? Yn ail, ymhle oedd Edmund Street yn y Blaenau? Ac yn olaf, a oes un ohonoch yn gyfarwydd â hen bennill neu rigwm am Sion a Sian sy’n byw yn y ty tywydd?

Gol: Cafwyd ymateb i ymholiad Steff am yr eli gwyrdd, yn rhifyn Mehefin. Ffoniodd Elsi Roberts, Chwilog acw un noson i ddweud ei bod yn cofio ei mam yn ei ddefnyddio ar friwiau aballu. Bu’n ddigon caredig i addo taro ‘chydig o’r hanes ar bapur inni yn y dyfodol. Diolch am gysylltu, edrychwn ymlaen felly.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home