Thursday, October 13, 2005

MYMRYN O’R ‘STEDDFOD

MYMRYN O’R ‘STEDDFOD
Pegi Lloyd-Williams

Bu i mi fynd yno ar y Dydd Mercher er mwyn ymuno ag aduniad yr hen Ysgol Sir. I mewn i’r Coleg ar y Bryn ar ein pennau a chael ‘lwc rownd’ iawn gan ein bod wedi cyrraedd cyn i’r merched ferwi’r tegell ar ein cyfer. Cafodd pawb amser da yno yn siarad hefo hwn a’r llall, a gofyn i rai: meibion i bwy oedda nhw? er mwyn dod o hyd i’w cyff. Naill yn dweud wrth y llall “Wel, rwyt ti’n edrych yn dda’ -yr arwydd cynta ein bod yn mynd i oed! Fydda steddfod yn y gogledd ddim yn steddfod i ni yma heb yr aduniad hwn, a mae lle i ddiolch i Nia Wyn, Beti, Siân a Sylvia am ymdrechu mor galed i gadw’r traddodiad ymlaen yn wyneb yr holl anhawsterau eleni. Da oedd clywed Siân yn cyhoeddi o’r llwyfan mai ar y maes byddent o hyn ymlaen, fel ag o’r blaen.

Roedd yr Athro Gwyn Thomas a Dr Bruce Griffiths yno wrth gwrs, ac fe gyflwynodd Bruce siec am fil o bunnoedd i’r Prifathro ar ran Cyfeillion yr ysgol. Tra yn diolch am y rhodd roedd yn galondid clywed Dewi Lake yn dweud y bydd yr arian yn mynd at y gweddill sydd mewn llaw wedi dathlu canmlwyddiant yr ysgol er mwyn gwella offer y llwyfan, goleuadau a sain y neuadd.

Ei gwneud hi wedyn at Y Faenol a mynd o gwmpas tipyn. Licio fel oedd pethau wedi eu gosod allan - doedd yr unlle yn bell iawn fel y gwelwn weithiau. Fydda i ddim yn un am y pafiliwn, yn enwedig y blynyddoedd diwethaf ‘ma pan rydym yn gweld cymaint ar S4C, ac felly yma ac acw y bum i. Cael croeso calon gan Merêd - wel roedd fy ngwyneb o’r golwg ar ei ysgwydd beth bynnag. Fo a Phyllis yn edrych yn dda. Galw heibio’r Babell Lên wrth gwrs, a gyda lwc mynd i mewn i babell ‘Y Caban’. Roedd yr hen stôf fawr yno a’r meinciau a’r byrddau, a phawb yn cael llond mwg mawr o de, a chan nad wyf yn cymryd llefrith na siwgr gallaf eich sicrhau mai paned dda dros ben oedd hi hefyd. Wedi mynd i mewn ar ein pennau wrth gwrs heb raglen na dim, ond yn lwcus iawn roeddem mewn pryd i gael trafodaeth ar Y Streic Fawr yn Sir Gaernarfon.

Streic y chwarelwyr wrth gwrs. Roedd yno 5 ‘Parchedig’, un o’r Eglwys Wladol, dau o Fethodistiaid rwy’n meddwl, a T.R. Jones (Tanygrisiau) bedyddwyr wrth gwrs, a John Roberts adran grefyddol y BBC fel “llywydd y ty” gan mai yn y caban oedda ni. Roedd yr eglwyswr yn canmol y meistri, ac yn atgoffa pawb fel roedda nhw yn gofalu am fythnynod i’r gweithwyr a llain o dir i dyfu bwyd a.y.y.b., cawsom rhyw cipdrem o’r cyfnod gan y ddau arall, ac un yn dweud fod yna le mawr i gredu mai myth rhamantaidd a gododd mewn amser oedd y ffaith fod y chwarelwyr yn bwrw eu hamser cinio prin yn ymdrin a phethau dyfnion bywyd a.y.y.b. Tipyn yn ystradebol hwyrach. Daeth tro ‘T.R.’ a dyma Tomi Richard yn bwyllog a dirodres yn rhoi cefndir Y Caban i ni, gan ei fod wedi bod yn rybelwr bach cyn troi at y weinidogaeth, a phrofiad personol ganddo am “eu hamser cinio brin”. Roedd John Roberts am ei frysio mlaen weithiau gan ‘fod yr amser yn brin’ ond byddar oedd Twm i’r cais a byddai torri ar ei sgwrs wedi tlodi’r cyfarfod. Roedd cynulleidfa dda yna hefyd, gyda Mr Cynog Dafis y cyn AS a AC yn cyfrannu llawer at y drafodaeth. Trist oedd sylwi nad oedd yr un llun na dim o gwmpas y ‘Caban’ yn cyfeirio ar chwareli Stiniog. Roedd yno gylchgrawn bach oedd yn cyfeirio ar ‘bedwar o dai a achubwyd rhag eu dymchwel ym Mlaenau Ffestiniog’ ag sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa wrth gwrs, ac ar y dudalen sydd yn cyfeirio at ‘Gerddoriaeth’ does ond sôn am fandiau pres Deiniolen, Llanrug a Phenygroes, er mae yna gyfeiriad at lwyddiant gwyliau lleol fel “Car Gwyllt” ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r adran lenyddiaeth yn cyfeirio at T. Rowland Hughes, Kate Roberts a Caradoc Pritchard, a’r adran chwareuon at Dr Robert Miles Roberts, Darans Llanberis, Llechid Celts, Mountain Rangers Rhosgadfan. Mae tudalen yr Undebiaeth yn ymdrin a chwarelwyr Arfon, ac felly adran Iechyd a Lles.

Penderfynu ei chychwyn hi oddi yno cyn diwedd gweithgareddau’r pnawn - penderfyniad doeth a chael siwrna didrafferth. Diwedd da i ddiwrnod ardderchog.

Cymeraf y cyfle wrth gwrs i longyfarch pawb o Stiniog a wnaeth mor dda yn eu hymdrechion - Seindorf Arian yr Oakeley; Côr y Brythoniaid; Gruffydd Glyn, wyr Derek a Meriel Sgwâr Oakeley ar ennill Gwobr Goffa Richard Burton; Cynan Jones, Caeffridd yn cael tlws am ei waith arbenigol yn Ymryson y Beirdd; a gweld Yr Athro Gwyn Thomas yn derbyn anrhydedd haeddiannol gan yr Eisteddfod. Hwyrach bod mwy - gobeithio bod yna, a’r un llongyfarchiadau i chwithau hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home