Thursday, October 13, 2005

Cadeirydd newydd y Cyngor Sir

Cadeirydd newydd y Cyngor Sir
Ddiwedd y gwanwyn eleni, etholwyd y Cynghorydd Arwel Jones, Bethania yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.

Yn wreiddiol o Harlech, graddiodd ym Mhrifysgol Bangor a bu'n athro ym Mhowys ac yng Ngwynedd, ac wrth gwrs roedd yn brifathro ar Ysgol Y Moelwyn cyn iddo ymddeol ym 1992.
Yn beldroediwr talentog, bu'n chwarae i dîm Porthmadog yn ystod oes aur y Clwb yn 1950au ac roedd yn aelod o'r tîm enillodd Cwpan Amatur Cymru yn 1955 ac 1956.
Mae wedi cynrychioli’r Blaenau ers sefydlu Cyngor Gwynedd ym 1996.

Llongyfarchiadau gwresog i chi Arwel, braint yn wir i’r fro annwyl hon hefyd. Bu Llafar Bro yn ei holi ar ôl ei benodiad; dyma ddetholiad o’r drafodaeth:

Beth ydych yn gobeithio’i gyflawni yn ystod eich cyfnod fel cadeirydd y cyngor sir?
Tri pheth – a’r cyntaf yw dal ati i sicrhau buddiannau etholwyr fy ward sef pobl Diffwys a Maenofferen.
Yn ail edrych ar ôl buddiannau pob aelod o Gyngor Gwynedd gan sicrhau eu bod yn cael chwarae teg i wneud eu gwaith dros eu hetholwyr.
Yn drydydd gwneud fy ngorau i gynrychioli pobl Gwynedd ar bob achlysur – tu mewn i ffiniau’r Sir ac yn genedlaethol pan fo angen hynny.

Un o’r trafodaethau dadleuol cyntaf y bu raid i chi ei oruchwylio oedd honno ar Farina Pwllheli. Beth yw eich barn ar rôl Cyngor Gwynedd, a’r canlyniad?
Fy ngwaith i oedd sicrhau chwarae teg i bob aelod fel y gallai fynegi ei farn. Cafwyd trafodaeth gwbl deg ac ymddygiad urddasol - oni bai am un ebychiad anffodus o’r seddi cyhoeddus.
Roedd yn ddrwg gennyf weld siom ar wynebau wrth i hen gyfeillion anghydweld - eithr roedd fy nghydymdeimlad yn aros gyda’r swyddogion oedd wedi gweithio ar y cynlluniau am gyfnodau maith - heb gael arwydd clir gan y gwleidyddion fod y mwyafrif yn erbyn.

Ymddengys fod Cyngor Conwy wedi bod rhoi rhwystrau yn llwybr y datblygiad arfaethedig i gludo llechi ar y rheilffordd o’r Blaenau, pa bwysau mae Gwynedd yn ei roi ar ein cymdogion i weld y goleuni?
Mae agwedd Cyngor Conwy wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf a chredaf fod gobaith am gydweithrediad rhwng yr awdurdodau – a chefnogaeth gan y Cynulliad. Rwy’n hyderus y bydd yr ymdrech fawr gan nifer o bobl yn arwain at lwyddiant.

Mae Bro Ffestiniog wedi newid yn sylweddol yn y cyfnod y buoch yn byw yma. Be fu er gwell a be fu er gwaeth yn eich barn chi?
Pan ddaethom yma gyntaf yn 1978 roedd siopau’r Stryd Fawr yn dal yn ffyniannus ac roedd graen ar adeiladau gyda dim ond ychydig o arwyddion dirwasgiad. Yna cafwyd cyfnod llwm iawn gyda newid mewn patrwm siopa yn cydredeg efo’r ergyd fawr o gau Atomfa Trawsfynydd.
Serch hynny, erbyn hyn mae pethau’n dechrau gwella gyda buddsoddiad arian cyhoeddus yn cael ei ddilyn gan arian preifat – a hynny’n amlwg ar y Stryd Fawr.

Mae yna bryder naturiol am Gymreictod yr ardal wrth i ni weld dieithriad yn ymsefydlu yma yn gynyddol. Serch hynny mae hyn hefyd yn her i ni Gymry Cymraeg i fynd ati, fel mae ambell i gôr a chymdeithas yn ei wneud yn barod, i dynnu pobl atom – ar ein telerau ni yn ieithyddol.
Fy mhryder mwyaf , yn bersonol yw dirywiad dychrynllyd ein capeli a’n eglwysi ac effaith hyn ar y gymdeithas yn gyffredinol. Yr hyn sy’n rhoi gwefr arbennig i mi yw llwyddiant digamsyniol ein hysgolion – sydd gyda’r gorau yng Ngwynedd oll.

Ydych chi yn dal i ddilyn pêl droed? Pwy yw eich tîm?
Mae pêl droed proffesiynol wedi fy suro i raddau a phrin yw’r diddordeb yn y timau mawr - onibai fod Cymro yn chwarae iddynt. Rhaid cyfaddef y byddaf yn ciledrych ambell i Nos Sadwrn ar ganlyniadau Coventry City - oherwydd i mi gael cynnig mynd atynt am fis ar brawf flynyddoedd maith yn ôl. Eithr stori arall yw honno - roedd hi rhy agos at arholiadau. Mae fy nghefnogaeth i’r tîm lleol yn gwbl annigonol - fel y bydd Gwilym Euros yn f’atgoffa. Yn anffodus, prynhawn Sadwrn yw’r unig amser rhydd sydd gennyf fel arfer ac rwy’n treulio hwnnw ar fryniau hyfryd Clwb Golff Ffestiniog.
Sefydlwyd Cymdeithas Chwaraeon yn Stiniog y llynedd a chlwb beicio yn ddiweddar hefyd; pa ddatblygiadau hoffech chi eu gweld o ran adnoddau a gweithgareddau hamdden yma?
Yn gyntaf mae’n bryd i ni sylweddoli fel ardal nad oes modd bellach i ail-agor y rheilffordd oddi yma i Gellilydan ac ymroi ati i fynnu gosod llwybr beicio yn ei lle. Rhaid galw yn groch am hyn - a dal i alw nes bydd wedi’i sefydlu.

Yn ail mae angen i ni ddod at ein gilydd i sefydlu Canolfan Chwaraeon newydd yn y Blaenau.
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi nodi'r ardal fel un a ddylai gael datblygiad o’r fath oherwydd safle daearyddol a phoblogaeth. Byddaf yn siomedig iawn os na cheir symud ymlaen efo hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Sut ydych yn ymlacio?
Yn y Côr Cymysg – yn enwedig ar yr adegau prin pan fydd yr arweinydd yn canmol y tenoriaid.
Petaech ar raglen Beti a’i Phobl heddiw, pa 5 darn o gerddoriaeth fyddech yn eu dewis?
Byddwn yn fodlon efo unrhyw ddarn o gerddoriaeth Mozart, aria o Opera Eidalaidd, yr Adagio o Bumed Symphony Mahler, Meredydd Evans yn canu “Carol y Blwch” a thâp o “Anweledig”,
Byddai hynny yn lleddfu pob teimlad o chwithdod !

Pa lyfr(au) ydych ar ei ganol ar hyn o bryd, a pha 5 llyfr hoffech gael efo chi petaech yn sownd ar ynys bellennig?
O’r diwedd rwyf bron a gorffen y bedwaredd gyfrol o’r “Raj Quartet” gan Paul Sacet. Ychydig o amser rwy’n ei gael i ddarllen ffuglen - er fy mod yn gwrando llawer ar dapiau wrth yrru’r car.

Yn anffodus mae’r dewis yn y Gymraeg yn hynod brin. Byddai’n rhaid i mi gael fy Meibl a’m Llyfr Emynau (Gwisg Moliant y Bedyddwyr Albanaidd, wrth gwrs), “Cerddi’r Haf”, Williams Parry, “Cysgod y Cryman”, Islwyn Ffowc Elis a chasgliad Saesneg yn cynnwys barddoniaeth W.B.Yeats ac R.S. Thomas

Ai ynys felly yw eich paradwys chi, ynteu un o gymoedd y fro hon, arfordir Ardudwy, neu gornel fechan o’r Eidal efallai?
Mae fy mharadwys i wedi ei rhannu yn dair, sef ardal San Quirico D’Orcia yn ne Toscanna yn yr Eidal, ardal Uwchartro yn y bryniau uwchben Harlech - a Chwmorthin.

Diolch yn fawr am eich amser a phob bendith yn eich gwaith. Dymuniadau gorau i chi ac i Mrs Jones hefyd ar ddathlu penblwyddi arbennig yn ddiweddar. Gweler Mr Jones yn ei gadwyn yn y llun dathlu diwedd y rhyfel.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home